3 Ion 2017

Cynnig Grŵp am Fisoedd Ebrill & Mai

Ardd Fotaneg · Botanic Garden

Mae gardd fwyaf a gorau Cymru yn cynnig graddfa grŵp â disgownt o £5 y person (y raddfa grŵp arferol yw £7.50 y person) i gwmnïau coetsys, gweithredwyr teithiau a grwpiau eraill, am y cyfan o fisoedd Ebrill a Mai 2017.

Bydd nifer ohonoch chi eisioes wedi ymweld â’r Ardd, sydd wedi’i disgrifio’n berl godidog yn nythu yng nghefn gwlad Gorllewin Cymru; byddwch wedi cerdded o amgylch y gadwyn hyfryd o lynnoedd, ymweld â’r Plas Pilipala newydd, yr Ardd Ddeu-Fur hanesyddol, ymweld â’n Bwyty Tymhorol trwyddedig a blasu’r prydau bwyd a baratoir yn ddyddiol gan ddefnyddio cynhwysion a gynhyrchir yn lleol.

Mae Tŷ Gwydr Mawr syfrdanol yr Arglwydd Foster, sy’n cynnwys y casgliad gorau o blanhigion y parth hinsawdd Canoldirol yn Hemisffêr y Gogledd, yn blaguro ac yn blodeuo yn Ebrill a Mai. Dyma’r cyfnod mwyaf cyffrous ar gyfer ymweld â’r gem pensaernïol hwn, pan fo planhigion yn blodeuo, a phan fo ymwelwyr yn cael eu cyfarch gan arogleuon llesmeiriol a golygfeydd i ryfeddu arnynt.

Mae rhestr lawn iawn o ddigwyddiadau wedi’i threfnu ar gyfer Ebrill a Mai, sy’n cynnwys adloniant y Pasg a Ffair Henebion Enfawr (Ebrill 22-23); Gwerthiant Planhigion Blynyddol Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru yn ogystal â hwyl, sbri a gemau dros ddwy Ŵyl y Banc ym mis Mai.

Pun ai os ydych chi wedi ymweld â ni o’r blaen neu beidio, pam na fanteisiwch ar y cynnig grŵp rhyfeddol hwn, a’n helpu ni i wneud 2017 yn flwyddyn i’w chofio.

Mae mynediad am ddim i bob gyrrwr coets, a byddant yn derbyn taleb ar gyfer pryd o fwyd gwerth £8.95 a thaleb rhodd £2 y gellir eu gwario yn Siop Roddion yr Ardd neu yn y Siop Gwerthu Planhigion ar y diwrnod.   Mae digon o le parcio AM DDIM – sy’n cynnwys maes parcio 18-cilfach i goetsis – ac rydym ni wedi’n lleoli rhyw ddwy funud o arch-briffordd A48/M4 De Cymru, fel rwy’n ei galw.

 

Er mwyn llogi lle, galwch 01558 667149 neu e-bostio gatehouse@gardenofwales.org.uk

*Mae’r tâl o £5 yn gymwys i bawb – does dim consesiwn pellach ar y cyfradd grŵp yma.