14 Tach 2016

Byw’n gyflym, marw’n ifanc – Mae’r Gwyfod Atlas yn ‘roc a rôl’ iawn

Bruce Langridge

Byw’n gyflym, marw’n ifanc – Mae’r Gwyfod Atlas yn ‘roc a rôl’ iawn

“Bruce, mae’n rhaid i ti ddod yma.”

Dyna Carl Holmes, ein garddwr campus sydd wedi goruchwylio’r trawsffurfiad o’n Tŷ Trofannol i’r atyniad newydd – Plas Pilipala.  Mae’n siarad ar set symud a siarad yr Ardd, ac mae’n swnio’n gyffrous.

“Wyt ti’n mynd i ddweud wrtha’i amdano’r Gwyfod Atlas, Carl?”  Roeddwn wedi gweld llun o un o wyfod mwya’r byd yn barod ac wedi sylwi bod yna rhywbeth arbennig yn digwydd yn yr Ardd.

“Ydw, ac maent yn edrych yn rhyfeddol, rwyf am i bawb wybod eu nhw bod yma.”

Ychydig funudau’n hwyrach fe sylwais gasgliad o arddwyr ym Mhlas Pilipala, yn sefyll o amgylch bonyn coeden.  Nid oeddwn yn gallu gweld yr hyn yr oeddent yn syfrdanu ar y dechrau, ond yna fe wnaeth fy llygaid ffocysu ar y gwyfyn enfawr yma, yn llonydd gyda phlwc pob hyn a hyn, yn denu sylw i blaenau ei adenydd, sy’n debyg iawn i ben neidr.

“Mae’n rhaid i ti weld y cocŵn.”  Fe wnaeth y myfyriwr gwyddoniaeth Sean agor cyn-gartref y gwyfyn atlas yn araf deg, cocŵn sidan anferth gyda chasyn crysalis wedi agor tu fewn.  “Mae yna nifer fwy o’r rhain i agor dros y pythefnos neu tair wythnos nesaf,” fe ychwanegodd gan ddangos i mi cocŵn yn hongian o goeden, sy’n edrych fel petai yn mynd i agor heddiw.

Fe ddywedodd wrtha’i bod y gwyfyn Atlas yn dod o fforestydd trofannol de-ddwyrain Asia, nid oes ganddynt gegau ac mae rhaid iddynt baru a dodwy wyau cyn iddynt farw o fewn 5 dydd yn unig.

‘Roc a rôl’ a ‘byw’n gyflym, marw’n ifanc’ iawn.

Fe wnaeth y golwg o hibisgws melyn trawiadol dal fy llygaid hefyd.  “Sut mae’r planhigion yn gwneud, Carl?” fe ofynnais.

“Rwy’n cael fy nghyffroi gan gawr arall, y tegeirian Myrmecophila.”

“Beth?”

Mae’n danfon pigau blodeuo 5 medr o hir ac rwyf wedi sylwi bod y planhigyn yn tyfu, ac yn paratoi i flodeuo.”

Mae’n dda i siarad â Carl gan ei fod yn dangos i mi pethau ni fydda’i wedi sylwi, fel y planhigion coco a fanila, yn casglu nerth cyn iddynt flodeuo a chynhyrchu hadau blasus.  Gallwn ddweud ei fod yn falch o’r bananas a phapaias sy’n cynhyrchu ffrwythau, a’r arddangosfa o degeirianau egsotig sy’n croesawu ymwelwyr wrth iddynt gerdded mewn i Blas Pilipala.

Roeddwn yn ymwybodol bod eleni wedi bod yn gromlin dysg serth i Carl a’r tîm, gan fod Plas Pilipala ond wedi agor ym mis Mehefin.

“Mae’n rhaid dy fod wedi blino’n lân yn dilyn yr holl waith yma Carl.”

“Rwyf wedi.”

“Felly mae’n amser i arafu ychydig ac adennill bach o nerth nawr?”

“Yn sicr.  Ond rwyf wedi meddwl y dylem gael rhywfaint o soflieir yma.”