1 Meh 2016

Arddangosfa Newydd – Lan-Gylchu: Pethau Newydd Disglair

Bruce Langridge

Mae’n bleser gennym i arddangos gwaith hyfryd myfyrwyr Blwyddyn Gyntaf BA Tecstilau o Ysgol Celf & Dyluniad Caerdydd.

Mae gwaith y myfyrwyr wedi seilio ar brosiect lan-gylchu a chafodd ei ysbrydoli gan y cwmni byd-eang, a’i leoliad yng Ngheredigion, Hiut Design & Co, yn ogystal ag ymweliadau i’r Ardd a’r Llyfrgell Darluniadau Botanegol yn Amgueddfa Genedlaethol Cymru, Caerdydd.

Cafodd y myfyrwyr eu gofyn i ddadadeiladu hen eitemau denim a’u trawsffurfio drwy ddefnyddio technegau pwyth a phrint crefftus.  Mae’r prosiect yn ffurfio rhan o’r cwricwlwm israddedig sy’n cofleidio cynaliadwyedd, rhywbeth sy’n cael ei rhannu gyda’r Ardd.

Ar yr olwg gyntaf, mae’r darnau yn edrych yn rhai syml, ond wrth i chi edrych yn agosach fe welwch fod pob un gyda chyfoeth o dechnegau dyluniad cymhleth, gyda’r effaith terfynol yn un arbennig.

Mae’r arddangosfa yn cael ei gynnal yn Neuadd yr Apothecari tan ddiwedd mis Mehefin felly gwnewch yn siŵr i’w ymweld y tro nesaf yr ydych yn yr Ardd.