26 Mai 2016

Gadael y gwair i dyfu

Bruce Langridge

Rwyf wedi bod yn siarad â Isabel Macho, Swyddog Bioamrywiaeth ysbrydoledig Cyngor Sir Gaerfyrddin.

Mae hi’n arwain ymgyrch i annog pobl i adael ardal fach o’i lawntiau neu wair ar gyfer peillwyr, y gallant gadw cartref neu fel rhan o dir ysgol, mynwentydd, adeiladau cyhoeddus, ardaloedd chwarae neu o gwmpas busnesau.  Mae’n syniad arbennig ac un sy’n atseinio’n gryd gyda’r Ardd, nid yn unig efo’r ymchwil yr ydym yn gwneud ar beillwyr ond hefyd oherwydd dyma beth rydym wneud yn ardaloedd o’r Ardd.

Roedd Isabel am gael llun i ddangos yr effeithiau o adael i ardal o wair dyfu felly rydw i newydd fynd allan i gymryd y lluniau yma o’n ‘lawntiau’  rhwng y Tŷ Gwydr Mawr a’r Rhodfa Uchaf.  Amseru da gan fod nifer o degeirianau rhuddgoch Dactylorhiza praetermissa newydd flodeuo dros y cwpl o ddiwrnodau diwethaf.  Mae’r pethau bach porffor hyfryd yma ond wedi ymddangos ar yr ardaloedd yma dros y 3-4 mlynedd diwethaf, yn debyg i’r friallen Fair Primula veris, sydd wedi gorffen blodeuo am y flwyddyn yma.  Fe wnaethom fentro i adael y gwair tyfu’n hir yma tua pump neu chwe blynedd yn ôl, a beth oedd yn borfa eithaf difywyd wedi dod yn baradwys i fywyd gwyllt – torrwyd y gwair ym mis Awst ar ôl i’r blodau gwyllt cael amser i flodeuo a gollwng eu hadau.  Edrychwch yn agos ac fe welwch bob math o flodau gwyllt yna, ac os yw’r haul allan, gwelwch nifer o wahanol fathau o wenyn, pryfed hofran a phili-palod hefyd.

Dewch i gael golwg – efallai fe gewch eich ysbrydoli i adael ardal o’ch gardd chi i dyfu.