17 Maw 2016

Gwniwyr Cymraeg Yn Creu Blodeuyn De Affrica

Bruce Langridge

Mae yna ddarn o waith celf syfrdanol newydd i ddadorchuddio yng Nghanolfan Gwyddoniaeth yr Ardd Fotaneg Genedlaethol Cymru ar Ddydd Gwener 18fed o Fawrth, 2016

Bydd Fynbos De Affrica yn ei Blodau yn dathlu planhigion Tŷ Gwydr Mawr eiconig yr Ardd.  Mae’r arddangosfa yn canolbwyntio ar fflora’r Fynbos De Affrica, rhanbarth o Benrhyn y Gorllewin sy’n hynod o gyfoethog yn flodeuol ar y Ddaear – yn fwy amrywiaethol na fforestydd law’r Amason, ac yn cynnwys rhai o’r blodau mwyaf lliwgar, cerfluniol a hudolus yr y blaned.

Mae’r peth hynod o braf yma wedi ei ddal yn berffaith gan Grŵp Gwniwyr Botanegol yr Ardd.  Wedi ei harwain gan Marilyn Caruana, a chafodd y syniad o sefydlu grŵp gwnïo cymunedol yn yr Ardd yn 2014, wedi ysbrydoli o syniad gan cyn-guradur yr Ardd, Simon Goodenough.

Dywedir Swyddog Aelodaeth a Gwirfoddoli’r Ardd Jane Down: “Y prosiect yma yw eu mwyaf uchelgeisiol, yn dechnegol ac yn drefnol.  Mae wedi amseru’n berffaith hefyd – hwn yw’r amser gorau o’r flwyddyn i weld y blodau ‘go iawn’ o Dde Affrica yn y Tŷ Gwydr Mawr.”

Efo dros 80 o wniwyr gweithgar, bydd hefyd gan y Gwniwyr Botanegol nifer o arddangosfeydd arall i’w gweld yn cynnwys Ffwng mewn Ffabrig a Chlytwaith Planhigion y Fferyllfa, arddangosfa ar blanhigion meddygol sydd wedi bod yn cael ei ddangos yng Nghanolfan Blodau Gwyllt Lerpwl am y 6 mis diwethaf.

Bydd Fynbos De Affrica yn ei Blodau yn cael ei ddadorchuddio gan sêr De Affrica’r Scarlets Llanelli David Bullring a George Earle am 2yp.

Bydd yr arddangosfa yn symud o’r Canolfan Gwyddoniaeth i’r Tŷ Gwydr Mawr yn ystod yr haf.