Crwydro yn yr heulwen
O’r diwedd ciliodd y glaw enbyd a heddiw roedd modd mynd am dro, a hynny yn heulwen mis bach. Diwrnod da iawn i fynd am dro yng nghysgod y cloddiau allan yn y wlad.
Oedd, roedd hi’n ddiwrnod i godi calon rhywun, a’r golygfeydd yn hyfryd. Ond yr hyn a wnaeth i fi ryfeddu fwyaf oedd y cyfoeth yn cuddio yn y cloddiau ar bob tu.
Gemau gwir werthfawr
Ymhlith y tlysau yn y cloddiau ar hyn o bryd mae Llygad Ebrill – mae’n dal y golau fel darn bach o ffoil. Ac yna, wrth gwrs, mae’r briallu cynhenid, Primula vulgaris. Wyddoch chi bod modd bwyta’r blodyn a’r dail? Ond mae’n well gen i adael y cyfan i’r gwenyn sy’n dechrau ymddangos ac yn chwilio am neithdar prin.
Ydy, mae’r lili wen fach yn llonni calon rhywun hefyd – mae’n goleuo’r man tywyllaf.
Sylwais i ar ffwng heddiw hefyd – cwpan robin goch, yn byw ar goed sy’n pydru, ac yn edrych yn llachar dros ben.
Ŵyn bach cynta’r tymor
A beth welais i ar yr ochr arall i’r clawdd? Ŵyn bach cynta’r flwyddyn. Mae fferm organig 160 hectar yn rhan o’r Ardd, o fewn y warchodfa natur genedlaethol, ac mae sawl math prin o ddafad yn bridio yma.
Dewch i’r Ardd ac ewch am dro yma hefyd, i fwynhau tipyn bach o gefn gwlad Cymru.