2 Meh 2014

Natasha yn ymladd yn erbyn troseddu byd-eang

Bruce Langridge

Mae gwyddonwraig o Gymru wedi ymuno ag ymdrech ryngwladol i atal masnachu anghyfreihlon mewn rhywogaethau o anifeiliaid sydd mewn perygl. Mae Dr Natasha de Vere, Pennaeth Gwyddoniaeth yng Ngardd Fotaneg Genedlaethol Cymru, yng Nghenia yn dysgu technegau codio-bar DNA i’w gwyddonwyr nhw yno, fel eu bod nhw’n gallu adnabod rhywogaethau oddi wrth samplau bychain, wrth ymchwilio i droseddwyr bywyd gwyllt a’u herlyn. Dywedodd Dr de Vere, a arweiniodd dîm y llynedd i sicrhau mai Cymru oedd y wlad gyntaf yn y byd i godio-bar DNA ei holl flodau brodorol:  “Mae potsio anghyfreithlon a masnachu rhyngwladol mewn anifeiliaid sydd mewn perygl yn un o’r troseddau mwyaf, ac yn cynrychioli degau o filiynau o ddoleri’n  flynyddol.” “Ein rhan ni ni yn yr ymdrech hon yw ymweld â chwe o wledydd partneriaethol – gan ddechrau yn Nairobi – er mwyn trosglwyddo ein sgiliau codio-bar.” Ychwanegodd:  “Mae llawer o’r nwyddau gwaharddedig a smyglwyd yn anghyfreithlon yn fyd-eang yn blanhigion, ac mae angen sgiliau arbennig i ganfod a oes rhywun yn ceisio cuddio un eitem dan fantell eitem arall, p’un ai os yw’r eitem yn gyfreithlon neu’n deillio o ffynhonell sy’n brin a/neu mewn perygl.” Mae pob un o’r gwledydd yn y bartneriaeth, sy’n cynnwys Cenia, Nigeria a Mecsico, wedi dynodi 200 o rywogaethau sydd mewn perygl, sydd wedi eu hamddiffyn gan eu cyfreithiau cenedlaethol, fel blaenoriaethau ar gyfer y prosiect, sy’n cael ei gyllido gan Google.  Diolch i Goggle a roddodd grant o $3 miliwn, mae Sefydliad y Smithsonian yn Washington, D.C., ar ran y Prosiect Codio-Bar Bywyd Gwyllt, wedi tynnu at ei gilydd dîm rhyngwladol o wyddonwyr ar gyfer yr ymdrech fyd-eang hon yn erbyn troseddu. Mae Natasha yn ymuno â’r arbenigwyr hyn sy’n dod o bob rhan o’r blaned, gan gynnwys prif ddosbarthwyr y byd, arbenigwyr mewn casgliadau amgueddfeydd a llysieufeydd, ymchwilwyr mewn labordai academig a fforensig, a gwyddonwyr fforensig bywyd gwyllt.

Nodyn i’r Golygydd: Mae Rhaglen Wobrwyo Effaith Byd-Eang Google wedi rhoi US$3 miliwn i’r Consortiwm Codio-Bar Bywyd (CCBB), Sefydliad y Smithsonian, Washington, D.C., ar gyfer prosiect peilot tair blynedd fydd yn arddangos gwerth codio-bar DNA ar gyfer ymchwilio i droseddu bywyd gwyllt a’i erlyn. Mae tair amcan gan y prosiect:

  1. Galluogi’r gwledydd yn y bartneriaeth i ddechrau defnyddio data codio-bar DNA fel tystiolaeth yn eu hymchwiliadau gorfodi a’u herlyniadau troseddol.   Bydd y prosiect yn darparu cefnogaeth hyfforddi a thechnegol sydd eu hangen gan labordai, ymchwilwyr a swyddogion gorfodi eraill, wrth iddyn nhw brofi’r defnydd o dystiolaeth codio-bar DNA yn eu gwaith.
  2. Creu llyfrgell gyfeiriadol o godau-bar DNA o 2000 o rywogaethau a restrwyd yn ôl eu dyfynebau, i’r cyhoedd ei defnyddio’n rhad ac am ddim.   Bydd y llyfrgell ar gael ar gyfer adnabod deunydd a atafaelwyd, gan ddefnyddio dulliau safonol labordy.
  3. Cefnogi ymdrechion gwledydd partneriaethol i fabwysiadu, gweithredu, a darparu cefnogaeth cynaliadwy yn ffurfiol, ar gyfer y defnydd o dystiolaeth codau-bar DNA fel rhan o’i hoffer safonol yn eu hymdrechion i frwydro yn erbyn troseddu bywyd gwyllt.