6 Mai 2014

Clytwaith Fferylliaeth Planhigion

Bruce Langridge

Crewyd yr arddangosfa hon o blanhigion meddyginiaethol gan Grŵp Gwnïo B (Botanegol)

Mae hi’n cyflwyno dewis diddorol dros ben o blanhigion o Brydain sydd wedi eu cofnodi’n rhai a ddefnyddiwyd i drin anhwylderau, yn hanesyddol, ac i rai, yn y cyfnod modern.

Clytwaith Fferylliaeth Planhigion yw’r arddangosfa gyntaf i ymddangos o brosiect cyffrous sy’n datblygu er mwyn creu casgliad parhaol o ddelweddau o blanhigion mewn brethyn ar gyfer Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru. Ysbrydolwyd Grŵp Gwnïo B, sy’n cynnwys bron 100 o aelodau, gan yr arddangosfa ddiweddar ar fywyd planhigion, Clytwaith Dôl, a ddangoswyd yn Oriel Stablau’r Ardd ym misoedd Ionawr/Chwefror 2014. Mae aelodau’r Grŵp yn cynnwys artistiaid, unigolion, ac aelodau o’r mudiadau canlynol: Brodwyr Caerfyrddin, Contexart, Happy Crafters, Itchyfingers, Cwiltwyr a Chlytweithwyr Llandeilo, Cwfen o Bwythau, Cangen Abertawe o Gymdeithas y Brodwyr, Share a Skill, Clytwyr Penclawdd, Cwiltwyr Tywi a Gwniwyr Dydd Mercher. Mae’r Grŵp yn cyfarfod yn rheolaidd yn yr Ardd ar Ddydd Mercher cyntaf pob mis. Does dim dysgu strwythurol yn digwydd yn y sesiynau gwnïo hyn, ond mae cymorth, cyngor a deunyddiau ar gael er mwyn estyn help i ddechreuwyr.

Os hoffech ymuno, cysylltwch â Jane Down ar 01558667118 neu ar jane.down.@gardenofwales.org.uk am fanylion os gwelwch yn dda. Hoffai’r Ardd ddiolch i’r holl bwythywr am eu gwaith caled, eu gallu a’u dychymyg; i dîm llyfrgell yr Ardd am gefnogaeth technegol a chyfeiriadol; ac i Nicola Dee Kelly, llysieuwraig meddyginiaethol annibynnol, am ei chyngor a’i hanogaeth.