15 Mai 2013

Taking Flight yn cyflwyno comedi hyfryd gan Shakespeare

Bruce Langridge

Mae cwmni theatr penigamp ‘Taking Flight’ nôl yng Ngardd Fotaneg Genedlaethol Cymru ar Ddydd Sul, Mai 19 am 2.00yp.

Byddan nhw’n cyflwyno ‘A Midsummer Night’s Dream’ – comedi hyfryd Shakespeare – fydd yn serennu Cara ReadLe o’r rhaglen teledu, Tracy Beaker.

Meddai Elise Davison o ‘Taking Flight’:  “Gan ddefnyddio’r Ardd fel ein hysbrydolaeth, byddwn yn eich harwain ar daith hudol llawn chwerthin, pypedwaith, a cherddoriaeth byw gwreiddiol.”

Bydd y perfformiad yn dechrau am 2.00yp, a does dim tâl ychwanegol i weld y ddrama.  Mae taliadau arferol mynediad i’r Ardd yn gymwys.

Am fwy o wybodaeth am hwn a digwyddiadau eraill yn yr Ardd,  e-bostiwch info@gardenofwales.org.uk , neu galwch 01558 667149.