Ry’n ni’n darparu cyfleoedd i fyfyrwyr gwyddoniaeth i ddysgu a datblygu sgiliau newydd
Mae Adran Wyddoniaeth yr Ardd yn darparu cyfleoedd i fyfrwyr ddysgu a datblygu sgiliau, fel rhan o’n cenhadaeth i hyfforddi’r genhedlaeth nesaf o wyddonwyr planhigion.
Mae gennym ysgoloriaethau Doethuriaeth a Meistr sy’n gysylltiedig â phrifysgolion ar draws y DG. Mae’r adran yn cynnig lleoliadau ymchwil blynyddol lle y gall is-raddedigion gymryd blwyddyn o leoliad fel rhan graidfd o’n tîm Gwyddonol. Ry’n ni hefyd yn croesawu ac yn darparu cyfleoedd profiad gwaith ar gyfer myfyrwyr lefel A ac ôl-raddedigion.