Mae llysieufa’r Ardd yn cynnwys ein hesiamplau o blanhigion gwasgedig, gan gynnwys esiamplau perthnasol i’n gwaith ymchwil gwyddonol.
Mewn llysieufa ceir casgliad o esiamplau o blanhigion wedi eu cadw’n arbennig, ac mae’n gweithredu fel cofnod barhaol o’r rhywogaeth honno.
Mae casgliadau o’r math yn darparu adnoddau hanfodol i ymchwilwyr. Ry’n ni’n eu defnyddio mewn ymchwil dosbarthiadol er mwyn cymharu rhywogaethau gwahanol. Gallwn ddarganfod mwy am ddosbarthiad planhigion yn y gorffennol drwy edrych ar darddiad y samplau. Gallwn hefyd echdynnu DNA o’r planhigion sampl hynny i’w defnyddio yn ein codio-bar DNA ac ymchwil cadwraethol.
Mae ein llysieufa yng Ngardd Fotaneg Genedlaethol Cymru yn cynnwys esiamplau o blanhigion a gasglwyd fel rhan o’n gwaith ymchwil. Mae e hefyd yn cynnwys llysieufa James Cosmo Melvill, a roddwyd yn garedig i’r Ardd gan Ysgol Harrow.
Ry’n ni’n gwerthfawrogi’n fawr cefnogaeth ariannol oddi wrth Sefydliad Finnis Scott er mwyn sefydlu ein llysieufa.