Llynnoedd yr Ardd
I ddynodi’n gynnil eich bod yn symud o’r Ardd Fotaneg ffurfiol i’r rhannau anffurfiol, mae cadwyn hyfryd o lynnoedd gardd, sy’n gynefin bwysig i flodau ac anifeiliaid dyfrol
Crewyd Llynnoedd yr Ardd gan William Paxton, y perchennog tir a drawsffurfiodd yr Ystâd Middleton wreiddiol o’r 17eg ganrif i fod yn barc dŵr godidog yn arddull Cyfnod y Rhaglywiaeth. Ffurfiwyd ei system ddyfeisgar o lynnoedd, nentydd, pyllau a rhaeadrau, gan ddefnyddio argaeau, pontydd a llifddorau. Roedd y rhain nid yn unig wedi ychwanegu prydferthwch i’r parc, ond fe’u dyluniwyd hefyd er mwyn darparu cyflenwad dŵr hynod o gyfoes i’r Neuadd Middleton newydd.
Dros gyfnod o amser, trodd y llynnoedd yn raddol yn ddrysgoed lleidiog, wedi’u tagu â choed nes ei bod hi’n anodd credu bod dŵr clir yno ar un adeg.
Yn awr, fesul un, mae’r saith llyn yn cael eu hadfer – yn gyntaf Pwll yr Ardd, yna’r bont a’r gored sy’n cadw Llyn Uchaf yn ôl, a Llyn Canol. Gyda chymorth Cronfa Dreftadaeth y Loteri i adfer y tirwedd a luniwyd yng nghyfnod y Rhaglywiaeth, ry’n ni’n cynllunio adfer y llynnoedd eraill erbyn 2020.
Mae llwybr hyfryd yn mynd â chi o amgylch y llynnoedd, pob un erbyn hyn yn hafan i fywyd gwyllt, lliwgar. Gall ymwelwyr lwcus iawn ddod ar draws dwrgwn a glas y dorlan.
Mae amodau llaith y pridd ar lan y dŵr yn ddelfrydol hefyd ar gyfer planhigion lluosflwydd fel bleidd-dag y gaeaf, crafanc-yr-arth, briallu’r gerddi, gellesg, ffug-farf-y-bwch, rheonllys mawr a bresych drewllyd, tra bod lili’r dŵr yn ffynnu ar wyneb y dŵr yn Llyn Uchaf.