Gardd yr Apothecari
Clustnodir yr ardd hon ar gyfer planhigion meddyginaethol
Bydd planhigion yn cynhyrchu cannoedd o gyfansoddion cemegol i’w hamddiffyn rhag pryfed, ffyngau, clefydau a mamaliaid sy’n pori. Gall yr un cemegion effeithio’r corff dynol hefyd.
Am filoedd o flynyddoedd, planhigion oedd prif ffynhonnell meddyginiaeth i’r rhan fwyaf o bobloedd y byd. Yn Neuadd yr Apothecari drws nesaf, fe welwch sut oedd hen siopau fferyllydd yn
llawn o foddion a ffisig wedi eu gwneud o blanhigion.
Hyd yn oed heddiw mae tua 50% o feddyginiaethau y diwydiant fferyllol naill ai’n defnyddio planhigion neu’n cael eu hysbrydoli gan sylweddau naturiol.
Ym mhob gwely blodau mae planhigion sydd wedi eu defnyddio ar ryw adeg i drin afiechyd system benodol o’r corff.
Ychwanegwyd un gwely i ddangos planhigion a ddefnyddiwyd gan Feddygon Myddfai, y meddygon llysiau enwog o Gymru.