5 Maw 2015

Yr Ardd a’r Coleg yn Cydweithio er mwyn Dylanwadu ar Genedlaethau o Ffermwyr y Dyfodol

Colin Miles

Bydd cytundeb newydd rhwng Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru a Choleg Sir Gâr yn chwarae rhan fawr mewn dylanwadau ar y genehdlaeth nesaf o ffermwyr i wneud gwir wahaniaeth i’r amgylchedd.

Arwyddwyd cytundeb pum mlynedd o reoli ffermydd rhwng yr Ardd a’r Coleg, gyda’r ddau fudiad yn disgrifio’r cytundeb fel enghraifft o gydweithio sy’n sicr o fod o fudd i bawb sy’n ynghlwm â’r peth.

Rhan fach yn unig o’r Ardd Fotaneg, safle 220 hectar, yw’r mannau hynny lle y denir ymwelwyr i weld planhigion. Yr ardal fwyaf o bell ffordd yw’r fferm weithiol, sy’n cynnwys Gwarchodfa Natur Waun Las.

Ar y dolydd llawn rhywogaethau a gofrestrwyd yn organig gan Gymdeithas y Priddoedd, mae gyr cynhyrchiol o 42 o warthog duon Cymreig, a phraidd o 200 o ddefaid Llŷn a rhai cymysgryw. Mae’r rhain yn cynhyrchu incwm trwy gynllun bocs yr Ardd ei hun. Mae ystâd y fferm yn cynnwys coetir sy’n bwysig yn ecolegol ac a leolir mewn tirwedd sy’n bwysig o ran treftadaeth.

Roedd cyfarwyddwraig yr Ardd, Dr Rosie Plummer, yn llawn brwdfrydedd am y ffyrdd y byddai ei mudiad yn elwa, yn gyntaf o gael rheolwr fferm y Coleg, John Owen, yn rhan o’i thîm, ond hefyd trwy gyfathrebu negeseuon cadwraethol yr Ardd yn well i’r genhedlaeth nesaf o fyfyrwyr, ynghyd ag i’r gymuned amaethyddol ehangaf.

Meddai Dr Plummer: “Mae gan dîm y Coleg, yn enwedig John, brofiad a gallu helaeth. Maen nhw wedi bod yn cydweithio gyda ni’n barod, ac yn adnabod yr Ardd a’r ystâd ehangach yn dda. Bydd y cynllun yn fodd inni wella ein masnachu, wrth inni fuddsoddi mwy nid yn unig yn ein gyr o wartheg duon Cymreig ond hefyd ein praidd o ddefaid, gyda’r amcan o elwa’n fwy ohonynt heb beryglu ein henw da am fio-amrywiaeth, y gweithion ni mor ddygn i’w ennill.”

Dywedodd Prifathro’r Coleg, Barry Liles, y byddai’r cytundeb yn creu cyfleoedd rhagorol nid yn unig i’r myfyrwyr hynny sy’n gweithio ar y tir weld a chael profiad o wahanol fathau o ffermio, ond hefyd i fyfyrwyr eraill ymrwymo’u hunain yn agosach â’r Ardd, Meddai Mr Liles eto: “Rhaid i unrhyw waith ar y warchodfa natur genedlaethol gael ei wneud i safonau llym amodau Cymhorthdal Stiwardiaeth Amgycheddol Uwch Glas Tir. Golyga hyn fod ein cytundeb yn amlygu’r ffaith fod y ddau fudiad yn cydweithio’n effeithiol er mwyn cyrraedd targedau amgylcheddol a thargedau Llywodraeth Cymru, ynghyd â buddiannau addysgiadol ac economegol.”

Ychwanegodd y byddai’r cyfleoedd dysgu ar ystâd Gelli Aur, sy’n fferm laeth yn bennaf, yn awr yn cyfannu gweithgareddau organig yn ymwneud â defaid a chig eidion yr Ardd. Bydd hyfforddiant ar gyfer gweithio ar y tir yn awr yn cynnwys mwy o ogwydd ecolegol.

Cytunodd Dr Plummer, gan ddweud: “Rhaid i amaethyddiaeth fod yn broffidiol os yw’r gymuned amaethyddol gymryd ein negeseuon cadwraethol o ddifri, ac mae’r cydweithio pwysig hwn yn dod o ddwy gyfeiriad sy’n gwneud yr amcan hwn yn fwy cyraeddadwy.”