Taith Tirwedd wedi’i Hadfer

Iau 12 Hyd 2023 11yb - 1yh Am ddim gyda mynediad

Fe wnaeth prosiect Adfer Parcdir Godidog rhwng 2015 a 2021 adfer tirwedd hanesyddol o lynnoedd, gorlifannau a rhaeadr eiconig.

Mae dau argae newydd, chwe phont newydd a milltiroedd o lwybrau newydd yn cysylltu’r dirwedd hanesyddol hon. Mae un bont yn eistedd uwchben y rhaeadr lle cewch y teimlad unigryw o fod yng nghopi’r coed gyda’r dŵr yn baglu wrth eich traed.

Darganfyddwch fwy am ecoleg a hanes y safle, a’r broses ddylunio a pheirianneg gymhleth a wnaeth y cyfan yn bosibl.

Bydd y daith yn para tua dwy awr ac am ddim ond mae mynediad arferol yr Ardd yn berthnasol.


Mae pob taith yn cychwyn o fynedfa orllewinol y Tŷ Gwydr Mawr. Nid oes angen archebu ymlaen llaw.

Cofiwch, os oes tywydd garw, efallai y bydd angen i ni ganslo’r daith ar fyr rybudd.

Os oes angen rhagor o wybodaeth arnoch, cysylltwch â:

angharad.phillips@gardenofwales.org.uk neu ffoniwch 01558 667177

Upcoming Dates

  1. Iau 12 Hyd 2023
    11yb - 1yh
  2. Gwen 24 Tach 2023
    11yb - 1yh
  3. Iau 14 Rhag 2023
    11yb - 1yh