Perfformiad – Y Mabinogi yn yr Ardd

Mer 22 Mai 2024 7:02yb - 7:02yb Am ddim gyda mynediad

Dewch i ddarganfod byd hudolus a dirgel y Mabinogi gyda Theatr Struts a Frets yn y perfformiad awr hwn sy’n addas i’r teulu cyfan.

Bydd addasiad dyfeisgar a hudolus Theatr Struts a Frets o’r chwedl glasurol Gymreig, Y Mabinogion, yn mynd â chi ar daith gyffrous gyda phypedwaith cywrain, adrodd straeon heb eu hail a cherddoriaeth wreiddiol.

Yn y dechreuad, roedd cydbwysedd. Nos yn dilyn Dydd, byddai Haf a Gaeaf yn ymddangos yn eu tro. Yna, un diwrnod, dewisodd Rhiannon, wedi diflasu ar y cylch di-ddiwedd, ei dorri – gan droelli’r byd i gyd, chwalu’r cydbwysedd a chreu anhrefn.

Dilynwch chwedlau Rhiannon, Blodeuwedd, a Phryderi trwy gyfnod pan oedd hud yn ymlwybro drwy dirwedd Cymru, straeon rhyfeddol am gewri yn llenwi’r awyr, brwydrau epig, a dewiniaid yn bwrw eu swynion.

——————————————-

Bydd y perfformiad hwn yn cael ei gynnal ar Lawnt y Mileniwm ar bwys y Bloc Stablau.

Dewch â’ch blanced picnic eich hun ar gyfer y perfformiad awr o hyd sy’n addas ar gyfer pob oedran.

Bydd perfformiadau’n cael eu cynnal ar:

  • Dydd Gwener 23 Mehefin am 12.30yp
  • Dydd Sadwrn 24 Mehefin am 12yp a 3yp.

Mae’r perfformiadau am ddim ond mae mynediad i’r Ardd yn berthnasol.