Eleni mae’r digwyddiad wedi’i ail-ddylunio a bydd yn cynnwys llawer o elfennau hwyliog rhyngweithiol newydd a gosodiadau ysgafn ar hyd llwybr newydd o amgylch yr Ardd Fotaneg.
Mwynhewch ein llwybr hudolus, gyda goleuadau, elfennau rhyngweithiol a chwareus, yn ogystal â cherddoriaeth swynol. Profiad bythgofiadwy i bawb o bob oed ei mwynhau.
Mae’r llwybr ar agor bob nos o ddydd Mercher 29ain Tachwedd tan ddydd Sul 24ain Rhagfyr 2023. Rhaid archebu tocynnau ar-lein ymlaen llaw.
Dyddiadau ac Amseroedd:
29ain Tachwedd – 24ain Rhagfyr
Amseroedd agor o 4.30yp hyd at 8yh
Mae slotiau mynediad bob 15 munud a bydd y llwybr yn cymryd tua 60-90 munud i’w gerdded, yn dibynnu ar eich cyflymder.
Rydym yn eich cynghori’n gryf i gyrraedd mewn pryd, os byddwch chi’n hwyr i’ch amser dewisol, ni fydd eich tocynnau’n drosglwyddadwy ac ni ellir eu had-dalu.
Cwestiynau Cyffredin:
Ymwelais â’r Ardd Fotaneg yn ystod oriau agor yn ystod y dydd, a allaf ddefnyddio fy nhocyn ar gyfer Luminate?
Na, rhaid archebu tocyn ar wahân ymlaen llaw ar-lein i ymweld â Luminate. Ni dderbynnir unrhyw docynnau mynediad yn ystod y dydd.
Rwy’n Aelod o’r Ardd Fotaneg, a ydw i’n cael mynediad am ddim i Luminate?
Gan fod hwn yn ddigwyddiad gan gwmni allanol, ni fydd Aelodau’n cael mynediad am ddim i Luminate a rhaid iddynt brynu tocyn.
A allaf ddod â’m ci i Luminate?
Ar wahân i gŵn cymorth, ni chaniateir cŵn i’r sioe golau Luminate, hyd yn oed os yw’n ‘Ddiwrnod i Chi a’r Ci’ yn ystod oriau agor yn ystod y dydd.
A fydd modd defnyddio’r gwasanaeth bygi gwennol neu logi sgwter symudedd?
Ni fydd yn bosibl rhedeg y gwasanaeth bygi gwennol yn ystod Luminate. Bydd y llwybr yn addas ar gyfer cadeiriau olwyn, sgwteri symudedd a phramiau.
I logi sgwter symudedd* cysylltwch â’n tîm Porthdy · gatehouse@gardenofwales.org.uk neu ffoniwch · 01558 667148.
*Mae nifer cyfyngedig o sgwteri symudedd i’w llogi. Archebwch ymlaen llaw os gwelwch yn dda.
Ymholiadau Tocynnau
Os oes gennych ymholiad ynglŷn â thocynnau, cysylltwch â Luminate ar info@luminate.live os gwelwch yn dda.