Gweithgareddau i fynd yn WYLLT yn Hwb Bywyd Gwyllt Tadorna

Sul 19 Mai 2024 9:51yh - 9:51yh Am ddim gyda mynediad

Ymunwch â Theithiau Tadorna yn eu Hwb Bywyd Gwyllt bob penwythnos ac yn ystod gwyliau’r ysgol gyda theithiau cerdded a gweithgareddau.

Mae’r Hwb Bywyd Gwyllt ar agor rhwng 10yb a 3.30yp. Galwch heibio i ddysgu am fywyd gwyllt a chadwraeth yn yr Ardd Fotaneg.

Hefyd, bydd gweithgareddau yn digwydd ar yr amser canlynol:

11:00yb-12:00yp – Helfa Bwystfilod Bach

1:00yp – 2:00yp – Taith adar yn Goed y Tylwyth Teg

2:30yp – 3:30yp – Gweithgareddau crefft

Mae’r holl weithgareddau’n dechrau yn Hwb Natur Tadorna sydd yn yr ardal y tu ôl i Gaffi Botanica yn Bloc y Stablau.