Gweithdy Coed – *WEDI GWERTHU ALLAN*

Mer 22 Mai 2024 7:21yb - 7:21yb Am ddim gyda mynediad

Ydych chi eisiau gwybod sut mae coed yn cyfathrebu, neu sut maen nhw’n darparu dŵr yfed glân, suropau neu hyd yn oed glanedydd golchi dillad? Eisiau gwella eich sgiliau adnabod coed a darganfod mwy am goed? Yna ymunwch â ni am weithdy coed arbennig! 

Fydd ein harbenigwr chwilota, Tara yn arwain y gweithdy yma ac yn dangos i chi sut i wneud cynhyrchion o’ch coed lleol. Mae angen archebu lle ymlaen llaw ar gyfer y gweithdy coed yma; £7 y pen, 15 lle ar gael.