Dathlwch Ddiwrnod Ffwng y DU yng Ngardd Fotaneg Genedlaethol Cymru!
Ymunwch â ni ar y 5ed o Hydref am ddiwrnod sy’n ymroddedig i fyd hudolus ffyngau. Darganfyddwch ryfeddodau cudd yr organebau anhygoel hyn trwy sgyrsiau arbenigol, teithiau tywys, gweithgareddau i bawb, ac arddangosfa o rai o’r rhywogaethau ffwngaidd rhyfedd a rhyfeddol a geir yn lleol.
Mae ein Gardd Fotaneg yn cynnig y lleoliad perffaith i archwilio amrywiaeth o gynefinoedd cyfeillgar i fadarch, gan gynnwys coedwigoedd, caeau, dolydd, lawntiau, a gwelyau blodau. Byddwch yn dod ar draws amrywiaeth gyfoethog o fywyd ffwngaidd, o’r capiau cwyr prin a lliwgar i’r corniau drewllyd. Mae pob rhywogaeth mor rhyfedd ag y mae’n brydferth!
Dewch i ddathlu hud ffyngau gyda ni! P’un a ydych chi’n fycolegydd profiadol neu’n chwilfrydig am ffyngau, mae rhywbeth i bawb ei fwynhau.
Sylwch nad oes yn rhaid i chi archebu ymlaen llaw, ond codir tâl mynediad safonol.
Uchafbwyntiau’r Dydd
‘Bwrdd Canfyddiadau Ffyngau Tony’
Amser: trwy’r dydd | Lleoliad: mynedfa ymwelwyr
Arddangosfa o sbesimenau ffwngaidd ffres, o ffynonellau lleol, gyda microsgopau i archwilio eu hadeileddau mewn manylder.
Gweithgareddau Ffyngau i Bawb
Amser: galwch heibio unrhyw bryd o 11yb-3yp | Lleoliad: Labordy Dŵr
Archwiliwch fyd ffyngau drosoch eich hun gyda llwybr cod QR hunan-dywys, sy’n addas i’r teulu cyfan ei fwynhau. Gallwch hefyd addurno’ch madarch pren eich hun – a fyddwch chi’n penderfynu dyfeisio’ch rhywogaeth eich hun neu ddynwared un o’r clasuron?
Taith gerdded ‘Ffyngau Dolydd & Glaswelltiroedd’ gyda Bruce Langridge
Amser: 10:30yb-12:00yp| Lleoliad: cychwyn o’r fynedfa i ymwelwyr
Dewch i archwilio’r ffyngau amrywiol ar ein Gwarchodfa Natur Genedlaethol Waun Las, gyda’r ecolegydd Bruce Langridge. Dysgwch fwy am gadwraeth ffwngaidd a’r rhywogaethau prin sy’n ffynnu yma gyda thaith hamddenol i’r dirwedd.
Sgwrs ‘Pam fod ffyngau yn hollbwysig i chi a lles byd natur’ gan yr Athro David Hawksworth
Amser: 11yb-12yp | Lleoliad: Theatr Botanica
Mae’n fraint cael croesawu’r Athro David Hawksworth CBE a fydd yn rhannu ei fewnwelediad ar ffyngau, a gasglwyd yn ystod ei yrfa dros 50 mlynedd.
Taith ‘Gerdded a Sgwrsio Ffyngau’ gydag Emma Williams o Ffyngau Anrhaith Glo
Amser: 1-3yp | Lleoliad: cychwyn o Theatr Botanica
Ymunwch â’r mycolegydd arbenigol Emma Williams i archwilio ffyngau diddorol yr Ardd. Gan ganolbwyntio ar adnabod ffyngau, a’u hecoleg a chadwraeth, mae hwn yn weithgaredd sy’n addas i’r teulu cyfan, p’un a ydych yn ddechreuwyr neu yn awyddus i ddyfnhau eich gwybodaeth.