Cwpaned a Sgwrs – Ymarfer eich Cymraeg

Llun 23 Medi 2024 11yb - 12yh Mae mynediad arferol yn berthnasol

Ydych chi’n dysgu Cymraeg? Eisiau ymarfer eich sgiliau siarad a gwrando a rhoi hwb i’ch hyder?

Beth am ddod i’r Ardd Fotaneg bob dydd Llun*, 11yb-12 canol dydd i gwrdd â dysgwyr eraill, cael sgwrs a chlywed gan rai o aelodau staff yr Ardd.

Cynhelir y sesiynau hyn yn Café Botanica sydd wedi’i leoli yn y Bloc Stablau – y cyfan sydd angen i chi ei wneud yw troi i fyny neu gysylltu â gruffydd.thomas@gardenofwales.org.uk am ragor o wybodaeth.

Mae croeso hefyd i siaradwyr Cymraeg rhugl ddod draw a helpu dysgwyr i ymarfer.

Mae mynediad arferol i’r Ardd yn berthnasol ac mae gan aelodau fynediad am ddim.
* Yn ystod tymor ysgol yn unig.

Upcoming Dates

  1. Llun 23 Medi 2024
    11yb - 12yh
  2. Llun 30 Medi 2024
    11yb - 12yh
  3. Llun 07 Hyd 2024
    11yb - 12yh
  4. Llun 14 Hyd 2024
    11yb - 12yh
  5. Llun 21 Hyd 2024
    11yb - 12yh
  6. Llun 04 Tach 2024
    11yb - 12yh
  7. Llun 11 Tach 2024
    11yb - 12yh
  8. Llun 18 Tach 2024
    11yb - 12yh
  9. Llun 25 Tach 2024
    11yb - 12yh
  10. Llun 02 Rhag 2024
    11yb - 12yh
  11. Llun 09 Rhag 2024
    11yb - 12yh
  12. Llun 16 Rhag 2024
    11yb - 12yh