Mae pawb yn hoff o ganhwyllau, boed yn ddefnyddiol neu i addurno. Ymunwch â Martin gwarchodwr yr Ardd i ddysgu am ganhwyllau cwyr a’r dulliau gwahanol i’w cynhyrchu.
Byddwch yn dysgu sut i wneud ganhwyllau sydd wedi eu rolio, canhwyllau sydd wedi eu credu mewn mold, a chanhwyllau gwaith llaw, yn labordy gwyddoniaeth yr Ardd.
Mae’r sesiwn hanner diwrnod yn cynnwys eich defnydd, sawl mold a chwyr wrth ein gwenyn ni. Dysgwch am hanes ganhwyllau cwyr a’u manteision wedi eu cymharu gyda chanhwyllau paraffin neu soia.
Bydd hwn yn gwrs hanner diwrnod rhwng 10yb a 2yp a bydd yn cael ei gynnal yng Nghanolfan Wyddoniaeth yr Ardd Fotaneg.
Mae’r cwrs yn £45 sy’n cynnwys holl ddeunyddiau’r cwrs a mynediad i’r Ardd Fotaneg, mae croeso i chi archwilio ar ôl y sesiwn!
Mae’r cwrs hwn ar gael i’w archebu bob dydd Mawrth ym mis Tachwedd (7fed tan 28ain), Rhagfyr 5ed,12fed ac 16eg a 13eg Ionawr.
Mae lleoedd yn gyfyngedig ac mae’n rhaid eu harchebu ymlaen llaw.
Os oes angen rhagor o wybodaeth arnoch, cysylltwch â: Martin.Davies@gardenofwales.org.uk