Sgwrs Arddwriaethol – Y Tŷ Gwydr Mawr

Mer 04 Hyd 2023 1:30yh - 2yh Am ddim gyda mynediad

Darganfyddwch fwy am y planhigion diddorol sy’n tyfu o fewn y Tŷ Gwydr Mawr eiconig yn y sgwrs a thaith 15 munud hon gyda’r garddwriaethwr Matt.

Mae’r Tŷ Gwydr Mawr yn  gwarchod rhai o’r planhigion sydd fwyaf dan fygythiad ar y blaned, sy’n hannu o chwe ardal sydd ag hinsawdd Ganoldirol, sef Califfornia, Awstralia, yr Ynysoedd Dedwydd, Chile, De Affrica a Basn y Canoldir, a rhannwyd y Tŷ Gwydr Mawr yn adrannau gwahanol i adlewyrchu hyn.

Mae hafau sych a phoeth, gaeafau llaith ac oer, golau haul disglair, awelon cryfion ac ambell dân i glirio’r tir yn creu amodau perffaith i lawer o blanhigion ffynnu, a hynny ar dirwedd brysgiog a chreigiog. Mewn gwirionedd, mae mor berffaith fel nad yw’r rhan fwyaf o’r planhigion hyn yn tyfu unrhyw le arall ar y Ddaear.

Er bod yr ardaloedd hyn yn llai na 2% o arwyneb y Ddaear, maen nhw’n cynnwys dros 20% o’r holl rywogaethau o blanhigion blodeuol yr ydyn ni’n gwybod amdanynt, a dywedir bod cyfoeth ac amrywiaeth y planhigion yn eu gwneud yn ail o ran pwysigrwydd i gynefinoedd trofannol.

Mae’r sgwrs/taith gerdded hon yn hygyrch i bawb ac yn dechrau y tu mewn i fynedfa orllewinol y Tŷ Gwydr Mawr.

Mae’r sgwrs am ddim ond mae mynediad arferol i’r Ardd yn berthnasol.