Blogiau'r Ardd

Ein Garddwriaethwyr Gardd – Will Ritchie

gan

Mae’r ffocws heddiw ar Guradur yr Ardd, Will Ritchie. Ers ymuno â’r Ardd dair blynedd yn ôl, rwyf wedi mwynhau nid yn unig ei ddiddordeb angerddol mewn planhigion, gerddi a chadwraeth, ond hefyd y pwysigrwydd y mae’n ei roi ar gydweithio cenedlaethol a rhyngwladol rhwng gerddi botaneg.

Beth yw curadur? Ei rôl ffurfiol yw ‘Goruchwylio datblygiad y casgliadau planhigion, y gerddi a’r ystad i hyrwyddo’r gwaith o warchod planhigion, ymchwil, addysg a garddwriaeth’.

Ble y cawsoch eich magu?

Cefais fy magu ger Inverurie yn Swydd Aberdeen, yr Alban. Roeddem yn byw mewn ardal wledig, gyda Pharc Cenedlaethol y Cairgorms i’r gorllewin a’r arfordir i’r dwyrain. Roedd Safle o Ddiddordeb Gwyddonol anhygoel gerllaw, ac a minnau’n fachgen ifanc a oedd yn ymddiddori’n fawr mewn astudiaethau natur, bûm yn ei archwilio gan ddysgu adnabod rhai o’r pethau sylfaenol, er enghraifft clymwellt, hesgen y tywod a chreiglys, yn ogystal â gwylio’r morloi a’r dolffiniaid. Yn anffodus, mae wedi newid tipyn dros y degawd diwethaf, ac mae bellach yn un o gyrsiau golff Donald Trump. Mae’n fy ngwneud yn drist iawn wrth feddwl amdano, ond efallai y bu i hynny danio fy angerdd dros gadwraeth.

 

Sut y datblygodd eich diddordeb mewn garddwriaeth?

Mae traddodiad hir o amaethyddiaeth a garddwriaeth yn nheulu fy nhad yn ardal Dwyrain Lothian. Mae’r fferm deuluol yn dal i gael ei rhedeg fel meithrinfa blanhigion hyd heddiw. Pan oedd arnaf angen arian ychwanegol yn fy arddegau i fynd i gigs neu i weld gemau pêl-droed, roedd chwilio am waith garddio fel petai’n ddewis naturiol. Pan oeddwn yn dal i fod yn yr ysgol, dechreuais swydd ran-amser yng Ngardd Pitmedden, lle’r oedd gennyf gysylltiadau teuluol gan mai fy chwaer oedd yn rhedeg yr ystafell de ac roedd fy nhad eisoes yn wirfoddolwr yno. Y rhan orau oedd pan fyddai’r sgons a oedd dros ben yn cael eu taflu allan trwy’r ffenestr wrth i mi basio ar y peiriant torri lawnt, a minnau’n cael eu bwyta i gyd.

 

Pa fath o hyfforddiant yr ydych wedi’i gael i ddatblygu eich gyrfa?

Hyfforddais ym maes garddwriaeth ymarferol, ond graddiais hefyd gyda gradd BSc (Anrh) mewn Garddwriaeth gyda Phlanyddiaeth yng Ngardd Fotaneg Frenhinol Caeredin (RBGE). Roedd yn gwrs perffaith i mi gan ei fod yn cyfuno garddwriaeth a botaneg. Ni allwn fyth wahanu’r ddau; maent bob amser wedi ymddangos yn ffit naturiol, ac roeddwn yr un mor gyfforddus yn y gerddi ag yr oeddwn yn y llysieufa. Pan gefais ysgoloriaeth ar gyfer astudiaeth ôl-raddedig yn yr Unol Daleithiau, gwnes yr un peth eto a chymryd dosbarthiadau garddwriaeth a botaneg. Bu llawer o erddi botaneg yn lloches i mi yn ystod fy nghyfnod yng Ngogledd America, wrth i mi addysgu a chyflawni prosiectau ymchwil a gwaith maes. Maent bob amser yn gartref oddi cartref i mi.

 

Yn arddwriaethol, ble ydych chi wedi gweithio o’r blaen?

Wel, mae gennyf CV sy’n cynnwys llawer o erddi yn y Deyrnas Unedig, Unol Daleithiau’r America a’r Dwyrain Canol. Un o’m hoff brofiadau, ac un o’m profiadau mwyaf rhyfeddol, oedd gweithio yng Ngardd Fotaneg Oman. Yn yr un modd â’n Gardd ni, roedd yn ardd fotaneg genedlaethol ar gyfer yr 21ain ganrif, prosiect pwrpasol i astudio a diogelu fflora Oman. Roeddwn yn gweithio yn y meithrinfeydd, gan dyfu’r holl blanhigion od hyn mewn tymereddau uwch na 40°C am ran helaeth o’r dydd. Roeddwn hefyd yn gwneud gwaith maes, gan gasglu hadau a thoriadau i sefydlu casgliadau cadwraeth ex situ. Roedd tirwedd y wlad yn anhygoel; ar un ochr i’r mynydd roeddech yn yr anialwch, ac ar yr ochr arall byddech mewn dyffryn toreithiog ffrwythlon, gwyrddlas. Roeddwn wrth fy modd yn gweld gardd fotaneg yn datblygu, a chael bod yn rhan o’r prosiect ar y dechrau. Roedd hynny’n rhywbeth newydd. Mae’n debyg bod hynny wedi fy ysbrydoli i ymgeisio am y swydd sydd gennyf heddiw.

 

Rydych yn amlwg yn mwynhau teithio i chwilio am blanhigion – rydych wedi siarad â brwdfrydedd mawr am eich taith i gasglu planhigion yn Fiet-nam er enghraifft. A allwch ddweud wrthym am eich hoff daith casglu planhigion/hadau?

Roeddwn wrth fy modd yn gweithio ym Mecsico. Treuliais un haf yn gweithio yn y llysieufa ym Mhrifysgol Ymreolaethol Genedlaethol Mecsico yn Ninas Mecsico. Byddem yn astudio’r fflora yn ystod y dydd, yn mwynhau goleuadau llachar y ddinas gyda’r nos, ac yna’n mynd allan i’r meysydd ar y penwythnosau. Mae’r wlad mor amrywiol; mae’n fan cyfarfod planhigion sy’n mudo o’r de trofannol a’r gogledd tymherus. Gallwch fod yn edrych ar agafeau yn tyfu yn yr eira neu gacti yn y fforestydd glaw. Yn Durango, yng nghanol Mecsico, roedd yn oer ac yn wlyb, ac roedd defaid yn pori’r ucheldiroedd. Roedd yn teimlo fel Cymru. Weithiau, nid oedd yn gwneud unrhyw synnwyr, ond dyna pam yr oedd yn anhygoel. Diwylliant mor gyfoethog hefyd – yr hanes, y celf, y bwyd. Ni allaf ganmol fy amser yno ddigon.

Sut y mae’r tîm garddwriaeth yn ymdopi â’r argyfwng Covid-19?

Mae’r tîm Garddwriaeth yn ymdopi’n dda iawn â’r amgylchiadau; rwy’n falch iawn ohonynt i gyd. Rydym yn gweithio patrymau sifft newydd, yn cadw pellter cymdeithasol, ac yn dod o hyd i ffyrdd newydd o ymgymryd â garddwriaeth. Mae’n bwysig iawn i ni fod y casgliadau’n parhau i ffynnu, a bod y gerddi’n edrych yn wych ar gyfer yr adeg pan fyddwn yn ailagor. Mae’r Ardd Fotaneg yn lle arbennig, a chredaf y bydd yn chwarae rhan bwysig o ran helpu pobl i ailgysylltu â natur pan fydd ymwelwyr a gwirfoddolwyr yn cael eu croesawu’n ôl.

 

A oes gennych hoff ran o’r Ardd?

Mae gennyf leoedd arbennig yn yr Ardd y byddaf yn mynd iddynt ar gyfnodau tawel i ysgrifennu yn fy llyfr nodiadau. Rwy’n dod o hyd i amser i fyfyrio ar gynnydd, llunio cynlluniau plannu newydd a meddwl am syniadau newydd. Ychydig iawn o’r nodiadau hyn sy’n dwyn ffrwyth, ond mae’n ffordd braf i mi brosesu fy meddyliau. Rwy’n credu mai dyna pam rwy’n dwlu cymaint ar erddi – maent naill ai’n fy lleddfu neu’n fy ysbrydoli.

 

Ni allaf ddewis hoff blanhigyn, ond mae gennyf deimladau sentimental tuag at ddau. Mae gan Senecio candicans y dail arian mwyaf anhygoel. Rwy’n cofio ei weld pan oeddwn yn blentyn yn yr Ardd Greigiau yn RBGE. Mae’n siwr mai dyma un o’r planhigion cyntaf rwy’n ei gofio, ac mae’n dal i fy swyno hyd heddiw. Mae gennym rai yn tyfu yn ardal Chileaidd y Tŷ Gwydr Mawr. Y llall yw Acer griseum, sydd i’w gweld ar y Rhodfa. Ar fy niwrnod cyntaf yn fyfyriwr yn RBGE, cawsom restr o blanhigion i’w dysgu – Acer griseum oedd yr un cyntaf ar y rhestr. Roedd yr holl enwau Lladin a gwyddonol yn go frawychus. Erbyn hyn rwy’n teimlo mor gyfforddus ag enwau botanegol – mae’n fy atgoffa y gallaf ddysgu unrhyw beth os ydw i’n amyneddgar ac yn ymroddedig.

 

Yn olaf, a allwch ddweud wrthym rywbeth annisgwyl amdanoch chi?

Er mawr gywilydd i mi, nid fi yw’r garddwr gorau yn fy nhŷ. Mae fy mhartner Sammi yn tyfu llawer o lysiau maethlon i ni yn yr ardd ac yn ei rhandir. Mae’n dwlu ar fwyd a garddio cymunedol. Rwyf wedi dysgu llawer ganddi, ac mae’n fy herio i feddwl bob dydd am rôl gymdeithasol a gwerthoedd gerddi botaneg.