Teithiau Tywys o’r Tŷ Gwydr Mawr

Iau 25 Ebr 2024 3:45yh - 3:45yh Am ddim gyda mynediad

Mwynhewch daith o amgylch y Tŷ Gwydr Mawr anhygoel yng nghwmni ein gwirfoddolwyr arbennig pob dydd Mawrth a dydd Iau am 11:00yb, 12:30yp a 2:00yp.

Gyda’i fwa hynod drawiadol, hwn yw’r tŷ gwydr un-rhychwant mwyaf yn y byd!

Wedi ei gynllunio gan Norman Foster & Partners, mae’r adeilad arbennig hwn i’w weld ar dirwedd Cymru fel diferyn enfawr o law.

Mae’n gwarchod rhai o’r planhigion sydd fwyaf dan fygythiad ar y blaned, sy’n hanu o chwe ardal sydd ag hinsawdd Ganoldirol, sef Califfornia, Awstralia, yr Ynysoedd Dedwydd, Chile, De Affrica a Basn y Canoldir, a rhannwyd y Tŷ Gwydr Mawr yn adrannau gwahanol i adlewyrchu hyn.