Dewch i ymweld â’r Ardd Fotaneg ar Sul y Mamau i fwynhau harddwch blodau’r gwanwyn a’r lle perffaith i ddathlu’r diwrnod arbennig iawn yma.
Trin Mam i de hufen blasus yn y Tŷ Gwydr Mawr, lle bydd y delynores Shelley Fairplay yn chwarae rhwng 12:00yp a 2yp.
Mae gan y Ganolfan Adar Ysglyfaethus ddwy arddangosfa hedfan anhygoel 11:30yb (yn yr awyr agored) ac 1:30yp (dan do). Lle byddwch chi’n gallu gweld yr adar ysglyfaethus yn hedfan ac yn dangos eu sgiliau naturiol.
Yn Hwb Bywyd Gwyllt Tadorna, bydd Gweithdy Sul y Mamau. Gwnewch gannwyll gwyr soi ac ymdoddi yn jar addurnedig eich hun, ychwanegwch eich arogleuon a’ch lliwiau eich hun i greu eich dyluniad unigryw. Galwch heibio unrhyw amser rhwng 10:00yb a 3.30yp, codir tâl o £7 i pob jar.
Mae Hwb Natur Tadorna sydd yn yr ardal y tu ôl i Gaffi Botanica yn Bloc y Stablau.