Nadolig Cynaliadwy
- Wed 12 Dec - Sun 23 Dec 2018
- 10am - 4:30pm

Bydd hi’n Nadolig Llawen a Chynaliadwy iawn yng Ngardd Fotaneg Genedlaethol Cymru eleni
Gyda chyfres arbennig o weithdai a digwyddiadau tymhorol, rydym yn anelu at leihau’r gormodedd, gwastraff a’r straen sy’n gysylltiedig yn aml â’r Nadolig.
Mewn cyfnod pan ydym i gyd am fod yn fwy cyfeillgar i’r amgylchedd a lleihau’n defnydd o blastigion untro, beth am ddysgu sut i addurno’ch papur lapio brown eich hun, sut i greu torch sydd hefyd yn fwydwr adar a sut i gynhyrchu rhoddion a thagiau hardd cyanoteip ynghyd â llawer mwy.
Gyda themâu wythnosol, bydd gweithdai moesegol AM DDIM* Tyfu’r Dyfodol ar gyfer oedolion yn eich dysgu sut i ailddefnyddio ac ailgylchu deunyddiau i greu’ch papur lapio, anrhegion ac addurniadau eich hun. Archebwch am weithdai Tyfu’r Dyfodol ar dudalen Eventbrite yr Ardd os gwelwch yn dda.
*Nodwch nid yw’r gweithdai am ddim hyn yn cynnwys mynediad i’r Ardd, gwelwch yma am brisiau mynediad os gwelwch yn dda.
Dydd Mercher Rhagfyr 19eg – Mercher Medrus
Gweithdai Pyrograffeg – 11yb & 1.30yp
Crëwch Addurniadau Cynaliadwy’r Nadolig, gan gynnwys garlantau ac anrheg ar gyfer yr ardd – 11yb & 1.30yp
Dydd Iau Rhagfyr 20fed
Gweithdy Addurno Torch – 11yb & 1.30yp
Dydd Mercher Rhagfyr 5ed-Dydd Sul Rhagfyr 23ain
Sioeau Hedfan Gwdihŵs gan Ganolfan Adar Ysglyfaethus Prydain
Sioeau’n cynnwys arddangosfeydd hedfan gwdihŵs, gemau a cherddoriaeth tymhorol, a’r cyfle i gwrdd â’r Gwdihŵ Sion Corn! £3.50 yn ychwanegol i fynediad arferol yr Ardd.
Mae’r Gweithdai Nadolig Cynaliadwy yn cael ei ddarparu gan brosiect Tyfu’r Dyfodol yng Ngardd Fotaneg Genedlaethol Cymru sy’n anelu at ddathlu garddwriaeth Cymru, i ddiogelu bywyd gwyllt ac i bwysleisio holl fanteision tyfu planhigion – i’w bwyta, i roi hwyl inni ac i gyfrannu at ein lles a’n hiechyd.
Mae’r prosiect hwn wedi derbyn cyllid trwy Raglen Datblygu Wledig 2014-2020 – Cymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru, a ariennir gan Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Ardaloedd Gwledig, a Llywodraeth Cymru.