Rydym yn falch o gyhoeddi bod ein Penwythnos Hen Bethau poblogaidd iawn yn ôl ar ôl seibiant o dair blynedd ar 28 a 29 Ionawr 2023.
Bydd amrywiaeth eang o stondinau yn gwerthu hen bethau mewn gwahanol leoliadau ar draws yr Ardd Fotaneg gan gynnwys o fewn lleoliad godidog y Tŷ Gwydr Mawr. Dewch i chwilio am drysor eich hun!
Cymerwch egwyl o siopa’r stondinau trwy gael tamaid i’w fwyta yn un o’n llefydd bwyd neu ewch i Siop Botanica i drin eich hun.
Ar gyfer y penwythnos hwn yn unig, bydd mynediad oedolion i’r Ardd yn £10 wrth dalu wrth y drws.