Ymunwch â ni wrth i ni ddathlu Nadolig gyfnod y Rhaglywiaeth yng Nghymru yma yn yr Ardd Fotaneg. Darganfyddwch sut y byddai trigolion Stad Middleton wedi dathlu Nadolig, 200 can mlynedd yn ôl.
Dysgwch am gyfnod y Rhaglywiaeth gyda cherddoriaeth a bwyd treftadaeth sy’n cael ei arddangos yn ogystal â gemau traddodiadol.
Bydd dawnsio wedi’i ysbrydoli gan gyfnod y Rhaglywiaeth am 12:00 canol dydd a 2yp. Dewch i ymuno â ni a pheidiwch ag anghofio’ch esgidiau dawnsio!
Bydd grŵp talentog o wirfoddolwyr o’r Grŵp Gwisgoedd Treftadaeth, ar gael yn sgwrsio â chi am eu gwisgoedd ac yn gwirfoddoli yn yr Ardd Fotaneg.
Byddwch yn greadigol a dewch i greu Calennig eich hun, arferiad traddodiadol wedi’i wneud gydag afal gyda chlofs a fyddai wedi cael eu defnyddio yng Nghymru fel ffordd o ddathlu’r flwyddyn newydd. Bydd cyfle hefyd i wneud gwyntyll eich hun!
Bydd Nadolig o gyfnod y Rhaglywiaeth yn Theatr Botanica rhwng 11yb a 3yp.