Arddangosfa: Fforestwyr, Ffermwyr a Physgod – Chwedlau o Goedlannau’r Hen Fyd a’r Byd Newydd

Sut i archebu

I gymdeithasau yn y byd modern, mae coed a choedlannau wedi dod i ymgorffori dolen gorfforol â natur sy’n emosiynol neu hyd yn oed yn ysbrydol mewn llawer achos.

Cânt eu defnyddio’n aml fel symbol o’r byd naturiol bregus a hardd, a’r brys sydd Inni symud i ffyrdd cynaliadwy o fyw.  Bydd cysyniadau fel colled ddynol, twf, adfywio ac adnewyddu yn aml yn defnyddio delweddau megis coed, ac ystyrir pobl sy’n gwarchod coedlannau, coedfeydd a gerddi botanegol yn warchodwyr ein gorffennol, y presennol a’n gobaith am ddyfodol sy’n mynd yn gynyddol ansicr.

Caiff hyn ei danlinellu ymhellach drwy gydnabod bod coedwigoedd y Ddaear yn bwysig i gynhyrchu ocsigen a rheoleiddio lefelau’r carbon deuocsid yn yr atmosffer, a bod torri coedwigoedd i lawr ar raddfa fawr wedi bod yn ffactor pwysig wrth gynhesu ac oeri’r blaned dros gyfnod maith. Gwelir bod y swyddogaeth a dybiwn sydd i goedlannau yn yr hyn a elwir yn “wasanaethau ecosystem” yn rhan annatod o barthau ac ansawdd bywyd  ar y ddaear. Ymhlith y swyddogaethau pwysig mae lleihau llifogydd, gwarchod pridd a dŵr, cadw carbon, ansawdd yr awyr mewn dinasoedd, diogelu bioamrywiaeth planhigion a bywyd gwyllt, a lles meddyliol a chorfforol dynolryw.

Mae gerddi botaneg a choedfeydd ledled y byd wedi bod yn canolbwyntio ar raglenni gwarchod planhigion, weithiau ar gyfer planhigion sy’n brin neu’n cael eu bygwth, ond hefyd yn gynyddol drwy gymryd rhan mewn rhaglenni storio hadau er mwyn cynnal amrywiaeth planhigion ar draws y byd. Mae Botanic Gardens Conservation International wedi bod yn allweddol mewn gwaith felly, ac mae wedi ysgogi dros 400 o erddi botaneg ledled y byd i ddatblygu banciau hadau felly. Ymhlith y casgliadau sylweddol mewn gerddi botaneg sy’n datblygu banciau hadau mae Banc Hadau’r Mileniwm, Gerddi Botaneg Brenhinol Kew, ac yn Awstralia RBG Sydney a Gerddi Botaneg Brenhinol Tasmania.

Mae’r berth yna rhwng pobl a’u “coedlannau gwyllt” erioed wedi bod yn gymhleth ac awgrymog yn ôl ble maen nhw’n byw – mewn amgylchedd drefol neu wledig – a’u bywoliaeth neu eu statws economaidd.

Yn hanesyddol mae’r dulliau economaidd o ddefnyddio planhigion a choed wedi bod yn ganolog i ffordd pobl o feddwl.

Mae’r cynllun cyfnewid celf-geowyddoniaeth rhyngwladol hwn yn archwilio amwyseddau diwylliant-natur o safbwynt yr Hen Fyd a’r Byd Newydd, drwy ddwyn ynghyd artistiaid a gwyddonwyr o Awstralia a  Chymru.
Dyma rai o’r themâu a archwiliwyd:
• Barn wrthgyferbyniol y byd am y buddiannau a’r niwed a achosir gan goedwigaeth “cnydau gwerthu” masnachol;
• Enghreifftiau o blannu coed yn strategol ddwy gynlluniau “arafu’r llif” yn y Deyrnas Gyfunol ac yn nyffryn Brisbane yn Awstralia;
• Dinistrio cymunedau brodorol o greaduriaid di-asgwrn-cefn a physgod ar raddfa eang yn Awstralia;
• Yr hen syniad yn Ewrop o weld coedlannau gwyllt fel ”gwastraff” i’w hawlio’n ôl neu’n “ddim ond adnodd di-ben-draw”;
• Y frwydr rhwng setlwyr/ffermwyr/coloneiddwyr y Byd Newydd yn y 19edd ganrif am barhad y gwyllt;
• Perthynas gorfforol ac ysbrydol y bobl gyntaf – Celtaidd a Brodorion – â choedlannau gwyllt a sut mae hyn yn gynyddol yn dylanwadu ar ffordd y byd heddiw o feddwl ac arfer cadwraeth a rheolaeth  coedlannau;
• Meddwl sut mae angen i goedlannau gyd-esblygu gyda ffermio modern, isadeiledd a datblygiad trefol yn y cyfnod dynol neu Anthroposen.

Mae Fforestwyr, Ffermwyr a Physgod: Chwedlau o Goedlannau’r Hen Fyd a’r Byd Newydd yn rhoi cipolwg newydd, awgrymog, traws-ddisgyblaethol a dwfn o berthynas cymdeithas â choedlannau, gan bwyso ar hanesion ecolegol Brodorol cyfoethog ac amrywiol.

Mae’r grŵp llywio ar gyfer yr arddangosfa hon yn cynnwys dau brif arlunydd rhyngwladol – Judy Macklin (Aberystwyth Printmakers, Cymru) a Jennifer Stuerzl (IMPRESS, Brisbane, Awstralia) a botanegydd, Dr David Bedford (cyn gyfarwyddwr Gerddi Botanegol Brenhinol Tasmania, Awstralia) ac awdurdod byd ar ecosystemau newid amgylcheddol – yr Athro Mark Macklin (Cyfarwyddwr Lincoln Centre for Water ac Iechyd y Blaned, a Phennaeth yr Ysgol Ddaearyddiaeth, Prifysgol Lincoln, y DG.  Cefnogir arddangosfeydd yn y DG gan Molly Brown (Aberystwyth Printmakers) a Flora McLachlan RE (Aberystwyth Printmakers).