Dydd Mercher Mwdlyd – 11yb

Maw 16 Ebr 2024 5:38yh - 5:38yh Am ddim gyda mynediad

Mae Dydd Mercher Mwdlyd yn awr o hwyl yn y goedwig yn yr Ardd Fotaneg, wedi’i anelu at blant cyn-ysgol (2 flynedd – 4 oed).

Mae’n sesiwn ddwyieithog lle mae’r plant yn dysgu am natur a’r tymhorau. Bydd y plant yn archwilio’r coetir gyda’u hoedolion a gyda’i gilydd byddant yn cael y cyfle i gymryd rhan mewn helfeydd trysor, crefftau, coginio dros y tan, straeon a chaneuon.

Dewch draw, dysgu, archwilio ac ymuno yn yr hwyl.

Mae archebu lle yn hanfodol ar gyfer y sesiwn hon:

Mae Dydd Mercher Mwdlyd gyda ffi o £1* ar gyfer pob plentyn ac mae mynediad arferol i’r Ardd Fotaneg yn berthnasol.

*Nodwch na ellir ad-dalu’r ffi o £1.

Noder bod gennym system archebu newydd. Ar ôl archebu lle, os na allwch fynychu’r sesiwn am unrhyw reswm, a allwch anfon e-bost i angharad.phillips@gardenofwales.org.uk neu ffoniwch 01558 667177 i ganslo eich lle gan fod galw mawr am y sesiwn hon.