Bydd y ddwy daith gerdded tua 90 munud, ac yn cychwyn am 11yb a 1.30yp o fynedfa’r Ardd Fotaneg, Y Porthdy, yn archwilio’r ffyngau hardd a rhyfedd o amgylch yr Ardd.
Hefyd bydd arddangosfa fwrdd o gyrff ffrwytho ffyngau a ddarganfuwyd gan fycolegwyr lleol, ffordd wych o weld y mathau anhygoel o ffyngau yn byw yn Ne Cymru.
Mae ein Clwb Ffilm Botanica newydd sbon yn dechrau ar ddydd Sadwrn Hydref 1af, gyda thri dangosiad o ‘Fantastic Fungi’.
Mae ‘Fantastic Fungi’ yn ffilm sydd am godi ymwybyddiaeth ar y rhwydwaith myceliwm, ac sy’n mynd â ni ar daith ymdrochol trwy amser a graddfa i mewn i’r ddaear hudol o dan ein traed, ac i weld y rhwydwaith tanddaearol a all wella ac achub ein planed.
Trwy lygaid gwyddonwyr a mycolegwyr o fri, rydyn ni’n dod yn ymwybodol o’r harddwch, deallusrwydd a’r atebion y mae’r deyrnas ffyngau yn eu cynnig mewn ymateb i rai o’n heriau meddygol, therapiwtig ac amgylcheddol mwyaf dybryd.
Bydd y ffilm yn cael ei dangos yn Theatr Botanica am 11yb, 1yp a 3yp. Mae am ddim i ymwelwyr i gyd a does dim angen archebu ymlaen llaw. Hyd y ffilm yw 81 munud.