Diwrnod Cennin Pedr

Gwen 19 Ebr 2024 3:13yh - 3:13yh Am ddim gyda mynediad

Fel blodyn cenedlaethol Cymru, mae’n hollol naturiol i’r cennin-Pedr gwych gael eu cynrychioli mor dda yng Ngardd Fotaneg Genedlaethol Cymru.

Ers agor yr Ardd yn y flwyddyn 2000, mae wedi arddangos dros 50 o wahanol fathau o’r blodyn llachar, neilltuol hwn.  Eleni, rydym yn ychwanegu arddangosfa 500 metr o hyd newydd ar hyn Y Rhodfa a Sgwâr y Mileniwm a fydd yn cynnwys dros 80 o fathau o gennin Pedr.

Bydd Diwrnod y Cennin Pedr yn eich helpu i ddeall y gwahaniaeth rhwng un narsisws a’r llall.  Cewch eich syfrdanu gyda’r amrywiaeth anhygoel o siapiau, lliwiau, meintiau a hyd yn oed aroglau blodyn cenedlaethol Cymru.

Dewch i fwynhau rhaglen ddifyr o sgyrsiau a theithiau cerdded yn canolbwyntio ar y cennin Pedr, gan gynnwys teithiau o amgylch yr arddangosfeydd newydd a sgwrs ar sut mae cennin Pedr a dyfir yng Nghymru yn helpu trin clefyd Alzheimer.  Cymerwch rhan mewn cystadleuaeth cymunedol newydd yr Ardd – mae gwobrau ar gael i’r goreuon!  Cewch hefyd y cyfle i siopa amrywiaeth o gennin Pedr yng Nghanolfan Arddio Y Pot Blodyn.

Sgwrs – Cennin Pedr: Enghraifft o fferylliaeth wyrdd

Bugail o Ganolbarth Cymru yw Kevin Stephens, sydd wedi bod yn gweithio ers dros 10 mlynedd i ddatblygu dull graddadwy, ecogyfeillgar a chost effeithiol ar gyfer cynhyrchu Galanthamine (cyffur sy’n gydnabyddedig a’n trwyddedig ar gyfer y clefyd Alzheimer) o gennin Pedr a dyfir ym mynyddoedd Cymru.

Alcaloid yw Galanthamine a ddarganfuwyd yn gyntaf yn y 1950au ym mylbiau o flodau eirlysiau ym Mwlgaria, ac yn ddiweddarach, mewn rhai mathau o gennin Pedr. Pan fydd wedi’i ynysu, mae’n gallu trin gorffwylledd fasgwlaidd a chlefyd Alzheimer yn effeithiol. Mae’n gweithio trwy atal ensym sy’n arwain at y nam gwybyddol a geir mewn cleifion Alzheimer.

Dysgwch fwy am sut mae Kevin yn arallgyfeirio ei fferm deuluol a sut mae’n gweithio i ddarparu dyfodol gwell i gleifion Alzheimer, eu teulu a’u gofalwyr.  I archebu’ch lle(oedd), ewch i’n tudalen Eventbrite os gwelwch yn dda.  Nodwch nid yw’r sgwrs am ddim hon yn cynnwys mynediad i’r Ardd.

Mae’r digwyddiad hwn yn rhan o brosiect Tyfu’r Dyfodol yng Ngardd Fotaneg Genedlaethol Cymru.

Mae’r prosiect hwn wedi derbyn cyllid trwy Raglen Datblygu Wledig 2014-2020 – Cymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru, a ariennir gan Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Ardaloedd Gwledig, a Llywodraeth Cymru.