Cerdded Nordig

  • Monday 26 September 2022
  • 1:45pm - 2:45pm

Cerdded Nordig

Mae Cerdded Nordig yn ffordd wych o gadw’n heini drwy gydol y flwyddyn, ac oherwydd ei fod yn seiliedig ar gerdded arferol, mae’n addas i gynifer o bobl.

Gan ddefnyddio polion a thechneg arbenigol, mae Cerdded Nordig yn defnyddio hyd at 90% o gyhyrau’r corf, sy’n golygu ein bod ni’n cael ymarfer corff llawn.

Ychwanegwch at hynny fanteision lles o fod yn yr awyr agored ym myd natur ac rydych ar y llwybr i rywbeth arbennig iawn.

Dewch i ymuno gyda ni i weld pa wahaniaeth y gall ei wneud i chi.

Mae Nordicymru yn cynnal sesiynau Cerdded Nordig yn rheolaidd yn yr Ardd Fotaneg.  Mae yna nifer o sesiynau ar gael yn addas at bob lefel, cliciwch isod i weld calendr archebu Nordicymru.