Mae Caffi Trwsio Caerfyrddin yn trefnu sesiwn trwsio offer llaw yng Ngardd Fotaneg Genedlaethol Cymru dros benwythnos 25 a 26 Mawrth o 10y -4yp.
Yn y Caffi Trwsio Offer, bydd arbenigwyr atgyweirio gwirfoddol ar gael i drwsio eitemau am ddim.
Mae offer ac arbenigedd wrth law, y cyfan sydd angen i chi ei wneud yw dod â’ch eitem sydd wedi torri gyda handlen newydd gyda ni ac fe wnawn ni’r gweddill.
Bydd hogwyr offer yn barod ac yn aros dros y penwythnos.
Mae’r holl waith yn cael ei wneud am ddim gan ein gwirfoddolwyr sydd fel arfer i’w cael yng Nghaffi Trwsio Caerfyrddin.
Bydd y Caffi Trwsio drws nesaf i’n Siop Lyfrau Ail-law yn y maes parcio.
Cafodd ychydig dros 100 o offer eu hatgyweirio pan oedden nhw yma yn yr Ardd Fotaneg ym mis Hydreft diwethaf!