Adam yn yr Ardd Fotaneg

  • Saturday 24 September 2022
  • 10:30am - 12:30pm

Adam yn yr Ardd Fotaneg

Mewn partneriaeth â Menter Cwm Gwendraeth Elli, ymunwch ag Adam yn yr Ardd am daith llawn gwybodaeth o gwmpas yr Ardd Fotaneg Genedlaethol.

Cewch elwa o brofiad a gwybodaeth Adam ar arddio, gan hefyd ddysgu mwy ar waith yr Ardd Fotaneg.  Bydd yna bwffe ar ddiwedd y daith.

Mae tocynnau’n £15 yr un sy’n cynnwys mynediad i’r Ardd Fotaneg, i gofrestru, cysylltwch ag Elen ar elen@mcge.org.uk.

Taith yn yr iaith Gymraeg yw hon, sy’n addas ar gyfer dysgwyr.