Digwyddiad Iechyd Gwenyn

Gwen 19 Ebr 2024 3:04yb - 3:04yb Am ddim gyda mynediad

Digwyddiad Iechyd Gwenyn

Ydy eich gwenyn chi mor iach ag y gallent fod?

Bydd yr Uned Wenyn Genedlaethol yng Nghymru, ar y cyd â Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru a’r Prosiect Tyfu’r Dyfodol, yn rhedeg digwyddiad cynhwysfawr ar Iechyd Gwenyn yn yr Ardd yn ystod penwythnos 22/23 Mehefin. Caiff ei gynnal ar y ddau ddiwrnod a bydd cyflwyniadau i bobl sy’n cadw gwenyn edrych ar afiechydon gwenyn yng Nghymru, gan gynnwys anhwylderau haid ac afiechyd hysbysadwy, rheoli’r gwiddon varroa a bioddiogelwch. Caiff y rhai a fydd yn ymrestru gyfle i ymuno mewn archwiliad o wenynfa’r Ardd, lle byddwn yn dangos archwilio cybiau gwenyn yn null yr Uned Wenyn Genedlaethol.

O dan do cewch gyfle i weld diliau sydd ag afiechyd, yn cael eu harddangos dan drwydded arbennig, i roi i’r rhai a fydd yn bresennol brofiad uniongyrchol, a’r unig brofiad, gobeithio, o afiechyd haid. Byddwn hefyd yn darparu stondinau gwybodaeth yn cynnwys amrywiaeth eang o blâu ac afiechydon ac arfer da perthnasol wrth gadw gwenyn, o reoli varroa i fioddiogelwch a phlâu o fannau tramor.

Bydd y gweithdai hyn yn gyfle i bobl sy’n cadw gwenyn gwrdd â rhai aelodau o dîm yr Uned Wenyn Genedlaethol yng Nghymru, i gael dealltwriaeth o ddiben a gwerth gwaith y Gyfarwyddiaeth, ac yn bwysicaf oll, i ddatblygu eu gwybodaeth a dadansoddi’r plâu allweddol a’r bygythiadau i iechyd eu gwenyn.

Bydd ffedogau diogelu a menig i’w taflu i ffwrdd yn cael eu darparu ar gyfer y gweithdy ar y diliau. A bydd angen i’r rhai a fydd yn bresennol gydymffurfio â’r camau bioddiogelwch a fydd mewn grym. Darperir siwtiau gwenyn a menig i’w taflu i ffwrdd ar gyfer y sesiynau yn y wenynfa, ond bydd angen esgidiau cadarn.

I archebu’ch lle, dilynwch y dolenni isod os gwelwch yn dda:

Dydd Sadwrn Mehefin 22ain

Dydd Sul Mehefin 23ain

Amserlen y Digwyddiad:

10yb:  Cyflwyniad i gydnabod clefydau a bioddiogelwch

Gwybod eich dil mêl a chwis ar fathau o wenyn egsotig

12yp:  Cinio

2yp:   Gweithdai – Arolygu cytref wrth ddilyn dull yr UGC

Rheolaeth a thriniaethau Varroa

Adnabod rhywogaethau anfrodorol a phla egsotig

5yp:   Diwedd

Nodwch nid yw’r digwyddiad am ddim hwn yn cynnwys mynediad i’r Ardd, ewch yma i weld yr holl brisiau mynediad os gwelwch yn dda.

Mae’r digwyddiad hwn mewn partneriaeth gyda phrosiect Tyfu’r Dyfodol yr Ardd Fotaneg, sydd am ddathlu garddwriaeth Cymru, diogelu bywyd gwyllt a phwysleisio holl fanteision tyfu planhigion – i’w bwyta, i roi hwyl inni ac i gyfrannu at ein lles a’n hiechyd.

Mae’r prosiect hwn wedi derbyn cyllid trwy Raglen Datblygu Wledig 2014-2020 – Cymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru, a ariennir gan Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Ardaloedd Gwledig, a Llywodraeth Cymru.