Cyngerdd Canol Haf

Sad 20 Ebr 2024 1:37yb - 1:37yb Am ddim gyda mynediad

Haf arbennig i’r teulu cyfan

Yn amgylchedd rhyfeddol y Tŷ Gwydr Mawr gan yr Arglwydd Foster – y tŷ gwydr un bwa mwyaf yn y byd – bydd 60 aelod o Symphonica Tywi yn dechrau tiwnio am 7.30yp ac yn parhau nes iddi nosi.

Mae’r digwyddiad bob amser yn un o uchafbwyntiau’r tymor ac mae’n addo, unwaith eto, gwledd o gerddoriaeth glasurol boblogaidd gan gynnwys, ymhlith eraill, ffefrynnau teuluol fel y telynegol ogoneddus “Scheherezade” gan Rimsky Korsakov, chwedl boblogaidd “Peter and the Wolf” a’r disgrifiadol “Land of the Mountain and the Flood”. Bydd Coroni diweddar y Brenin Siarl yn cael ei nodi gan y March mawreddog, “Crown Imperial” gan William Walton.

Meddai’r arweinydd Mike Cottam: “Yn ystod y flwyddyn yma, sef Blwyddyn Deg ar Hugain y Gerddorfa, bydd yn wych bod yn ôl yn yr Ardd am yr ugeinfed flwyddyn o berfformio yn y Tŷ Gwydr Mawr anhygoel! Mae’n addo i fod yn noson wych arall o alawon clasurol i’r teulu cyfan.”

Mae tocynnau Cyngerdd Canol Haf yn £18 i oedolion (£15 i Aelodau) ac £8 (£6 i Aelodau) i rai dan 16 oed.

Atgoffir aelodau i sicrhau eu bod yn dod â’u cardiau aelodaeth gyda nhw i ddilysu eu tocynnau disgownt.

Bydd lluniaeth ar gael i’w brynu o Gaffi’r Canoldirol yn y Tŷ Gwydr Mawr neu dewch â’ch picnic eich hun. Darperir cadeiriau.