Cwrs Garddio Heb Balu: Cyflwyniad Ymarferol

  • Iau 28 Mawrth 2019
  • 10am - 4pm
Sut i archebu

Garddio Heb Balu: Cyflwyniad Ymarferol

Cwrs undydd i gyflwyno manteision Garddio Heb Balu.

Ni ddylai tyfu bwyd gwych fod yn waith trwm.  Bydd y cwrs difyr hwn yn eich dysgu pam bydd newid i system dim-palu nid yn unig yn garedig i’ch cefn, ond hefyd yn cynyddu bioamrywiaeth, yn lleihau CO2, yn gwella cyflwr y pridd gan gynhyrchu ffrwythau a llysiau organig, rhyfeddol, iach.

Rhaid archebu ymlaen llaw.  Am fwy o wybodaeth, gan gynnwys sut i archebu, ffoniwch 01558 667150 neu e-bostiwch gtf@gardenofwales.org.uk  os gwelwch yn dda.

Cwrs yn cael ei ddarparu fel rhan o brosiect Tyfu’r Dyfodol.

Mae’r prosiect hwn wedi derbyn cyllid trwy Raglen Datblygu Wledig 2014-2020 – Cymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru, a ariennir gan Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Ardaloedd Gwledig, a Llywodraeth Cymru.