Cwrs Dylunio, Adeiladu a Chynnal a Chadw Gardd Gynaliadwy

  • Sadwrn 22 Mehefin 2019
  • 10am - 2pm
Sut i archebu

Dylunio, Adeiladu a Chynnal a Chadw Gardd Gynaliadwy

Dysgwch sut i ddewis defnyddiau tirweddu sy’n gynaliadwy ac yn cael cyn lleied â phosibl o effaith ar yr amgylchedd.

Nodwch yr arfer gorau i leihau eich ôl troed carbon wrth adeiladu. Ymgorfforwch nodweddion i alluogi crynhoi dŵr glaw a dŵr llwyd, mannau creu compost, defnyddio planhigion sy’n gwrthsefyll sychdwr, cael cyn lleied â phosibl o lawntiau, system dim palu, plannu bio-amrywiol, llynnoedd, gwestai pryfed a chynefinoedd bywyd gwyllt.

Cynlluniwch eich gardd er mwyn i ofynion cynnal a chadw yn y dyfodol ddefnyddio adnoddau cyfyngedig y ddaear yn y modd gorau.  Ymgorfforwch nodweddion gwyrdd i lehau’r galw am ynni mewn adeiladau, megis toeau gwyrdd a muriau byw, sydd hefyd yn darparu cynefinoedd a bwyd i fywyd gwyllt, yn ogystal ag ychwanegu at estheteg adeiladau.

Rhaid archebu ymlaen llaw.  Am fwy o wybodaeth, gan gynnwys sut i archebu, ffoniwch 01558 667150, e-bostiwch gtf@gardenofwales.org.uk neu ewch i dudalen Eventbrite yr Ardd os gwelwch yn dda.

Cwrs yn cael ei ddarparu fel rhan o brosiect Tyfu’r Dyfodol.

Mae’r prosiect hwn wedi derbyn cyllid trwy Raglen Datblygu Wledig 2014-2020 – Cymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru, a ariennir gan Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Ardaloedd Gwledig, a Llywodraeth Cymru.