Cwrs Dod i adnabod eich Blodau Gwylltion: Dechreuwyr

  • Sul 16 Mehefin 2019
  • 10:30am - 3pm
Sut i archebu

Cwrs Dod i adnabod eich Blodau Gwylltion: Dechreuwyr

Ydych am allu dweud y gwahaniaeth rhwng blodyn llefrith a phengaled?

Cwrs wedi’i anelu at ddechreuwyr yw hwn, a bydd yn hwb i’ch hyder wrth adnabod blodau gwylltion drwy ddangos ichi sut i adnabod teuluoedd o flodau gwylltion a defnyddio allweddi botanegol syml.

Yn y cwrs hwn byddwch yn dechrau yn labordy dysgu’r Ganolfan Wyddoniaeth, gan symud ymlaen i edmygu ac enwi blodau gwylltion yng nghaeau gwair Gwarchodfa Natur Genedlaethol Waun Las, gan orffen gyda chwis enwi.

Rhaid archebu ymlaen llaw.  Am fwy o wybodaeth, gan gynnwys sut i archebu, ffoniwch 01558 667150, e-bostiwch gtf@gardenofwales.org.uk neu ewch i dudalen Eventbrite yr Ardd os gwelwch yn dda.

Cwrs yn cael ei ddarparu fel rhan o brosiect Tyfu’r Dyfodol.

Mae’r prosiect hwn wedi derbyn cyllid trwy Raglen Datblygu Wledig 2014-2020 – Cymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru, a ariennir gan Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Ardaloedd Gwledig, a Llywodraeth Cymru.