Cwrs Conifferau Cyfareddol
Mae conifferau yn grŵp diddorol o blanhigion, gan gynnwys cedrwydd, pinwydd, hemlog, llarwydd a sbriws.
Yn ystod y cwrs hwn, bydd Swyddog Gwyddoniaeth Tyfu’r Dyfodol, Dr Kevin McGinn, yn cyflwyno’r nodweddion allweddol a ddefnyddir i nodi gwahanol deuluoedd a rhywogaethau conifferaidd, gan hefyd esbonio tarddiad rhai conifferau gardd ‘corachaidd’.
Bydd y cwrs hwn yn dechrau yn ein labordy addysgu, gan symud ymlaen at daith o gonifferau yng nghasgliadau byw’r Ardd. Croeso i ddechreuwyr a’r rheini sydd am wella.
Rhaid archebu ymlaen llaw. 10.30yb-3yp. £35 (£32 i Gonsesiynau & Aelodau’r Ardd) sy’n cynnwys mynediad i’r Ardd yn dilyn eich cwrs. Am fwy o wybodaeth, gan gynnwys sut i archebu, ffoniwch 01558 667150 neu ewch i dudalen Eventbrite yr Ardd os gwelwch yn dda.
Caiff un lle ar bob cwrs i oedolion cymhorthdal llawn a gall ymgeiswyr wneud cais i Brosiect Tyfu’r Dyfodol trwy lythyr cyfeirio gan feddyg teulu neu elusen gofrestredig i gtfadmin@gardenofwales.org.uk. Wedi’i chynnig ar sail gyntaf i’r felin.
Cwrs yn cael ei ddarparu fel rhan o brosiect Tyfu’r Dyfodol.
Mae’r prosiect hwn wedi derbyn cyllid trwy Raglen Datblygu Wledig 2014-2020 – Cymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru, a ariennir gan Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Ardaloedd Gwledig, a Llywodraeth Cymru.