Oes gennych ddiddordeb mewn coed ffrwythau treftadaeth Cymru?
Bydd Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru yn cynnal digwyddiad Perllan Treftadaeth Cymru ar Ddydd Mawrth, Ebrill 30ain o 11yb i 3yp, wedi’i drefnu gan Arddwriaeth Cymru mewn partneriaeth gyda phrosiect Tyfu’r Dyfodol.
Mae’r digwyddiad am ddim hwn yn cynnwys mynediad i Ardd Fotaneg Genedlaethol Cymru, ond mae’n rhaid archebu ymlaen llaw. I archbeu, ewch i dudalen Eventbrite yr Ardd os gwelwch yn dda.
Bydd y digwyddiad yn cynnwys cyfres o siaradwyr gwadd, cyfleoedd rhwydweithio, yn ogystal â lluniaeth a mwy.
Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â Garddwriaeth Cymru ar horticulturewales@glyndwr.ac.uk neu 01978 293401.
Mae’r prosiectau Garddwriaeth Cymru a Tyfu’r Dyfodol wedi derbyn cyllid trwy Raglen Datblygu Wledig 2014-2020 – Cymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru, a ariennir gan Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Ardaloedd Gwledig, a Llywodraeth Cymru.