17 Awst 2020

Teuluoedd planhigion gorau i beillwyr ym mis Awst

Ardd Fotaneg · Botanic Garden

Lamiaceae – teulu’r mintys

  • Hoff iawn gan gacwn ond hefyd yn denu’r holl grwpiau peillwyr.
  • Perlysiau gan gynnwys: Salvia (saets), Origanum (oregano a marjoram), Thymus (teim), Lavandula (lafant), Mentha (mintys)
  • Planhigion addurniadol gan gynnwys: Nepeta ‘Six Hills Giant’ (mintys y gath), Lamium (marddanadl), Stachys (briwlys y gwrych). Defnyddir Stachys byzantia (clust yr oen) gan y gardwenynen, sef gwenynen unigol sy’n defnyddio’r gwallt ar y planhigyn i leinio’i nyth.

Asteraceae – teulu llygad y dydd

  • Helenium, Rudbeckia, Aster, Helianthemum, Calendula: Mae’r blodau lliwgar, agored hyn yn ddeniadol iawn i bryfed hofran, cacwn, gwenyn mêl a gwenyn unigol. Mae nifer ohonynt yn blodeuo o ddiwedd yr haf tan yr hydref gan ddod â lliw i’ch gardd yn hwyr yn y tymor.
  • Cirsium rivulare: Mae gan yr ysgallen addurnol hon sy’n hawdd ei thyfu flodau lliw porffor tywyll a fydd yn denu pob un o’r grwpiau peillwyr i’ch gardd.
  • Centaurea (glas yr ŷd a’r bengaled) e.e. C. cyanus, C. montana: Mae glas yr ŷd yn arbennig o boblogaidd gan gacwn, ond hefyd yn denu pryfed hofran, gwenyn unigol a gwenyn mêl. Mae Centaurea nigra (y bengaled gyffredin) yn blanhigyn rhagorol i’w dyfu yn eich lawnt i’w gwneud yn ddôl.
  • Dahlia: ​Mae hwn y blodeuo’n gyson tan fis Hydref, ac mae’r mathau sydd â blodyn sengl, fel y ‘Bishop of Llandaff’, yn ddeniadol iawn i gacwn a gwenyn unigol.
  • Achillea (milddail) e.e. A. millefolium, A. filipendulina, A. ptarmica: Mae’r rhain yn ffynhonnell dda o neithdar gan ddenu pryfed hofran, cacwn, gwenyn unigol , gwenyn mêl a phili-pala.
  • Solidago (eurwialen) e.e. S. rugosa ‘Fireworks’: Mae’r planhigyn hwn yn blodeuo yn ystod misoedd yr haf tan yr hydref ac yn ffynhonnell werthfawr i beillwyr. Nid yw’n anghyffredin gweld nifer o bryfed hofran, cacwn, gwenyn mêl a gwenyn unigol i gyd ar y blodau yr un pryd.

 

Apiaceae – teulu’r moron

  • Mae gan nifer o blanhigion yn y teulu hwn flodau agored gwastad sy’n cyflwyno’r neithdar yn hawdd iawn, gan weithredu fel man glanio.
  • Yn ystod misoedd yr haf fe welwch ugeiniau o bryfed hofran yn bwydo arnynt.
  • Ymhlith y planhigion gardd poblogaidd yn y teulu hwn mae Anthriscus sylvestris ‘Ravenswing’ (gorthyfail dail tywyll), Astrantia (ffenigl-y-moch gwridog), Eryngium (celyn y môr), Foeniculum vulgare (ffenigl) ac Anethum graveolens (llysiau’r gwewyr).

 

Boraginaceae – teulu tafod-yr-ych

  • Echium vulgare (gwiberlys mawr): Mae’r planhigyn hwn yn cynhyrchu neithdar drwy’r dydd ac felly’n werthfawr iawn i beillwyr. Mae cacwn, gwenyn mêl a gwenyn unigol yn bwydo arno’n aml.
  • Symphytum (cyfardwf) e.e. Symphytum officinale: Mae’r cyfardwf yn blodeuo am gyfnod maith, a bydd cacwn a gwenyn mêl yn bwydo arno’n aml.
  • Borago (tafod-yr-ych): Mae tafod-yr-ych yn cynhyrchu llawer iawn o baill a neithdar ac mae’n ffynhonnell ragorol i beillwyr, yn enwedig gwenyn mêl a chacwn.
  • Phacelia tanacetifolia: Mae’r planhigyn blynyddol hwn yn ddeniadol iawn i gacwn, gwenyn unigol a phryfed hofran.

 

Fabaceae – teulu’r pys

  • Meillion gwyn (Trifolium repens) yw un o’r prif blanhigion fforio i wenyn mêl ym Mehefin, Gorffennaf ac Awst.
  • Defnyddir meillion coch (Trifolium pratense) a phys y ceirw (Lotus corniculatus) gan gacwn, gan gynnwys cacwn cynffon goch.
  • Mae ffacbys (Vicia) a phys pêr (Lathyrus spp.) hefyd yn ddeniadol iawn i beillwyr.
  • Mae yna hefyd nifer o lys o deulu’r codlys: ffa dringo, ffa’r gerddi, ffa Ffrengig a phys.

 

Rosaceae – teulu’r rhosyn

  • Rubus yw’r prif blanhigyn i wenyn mêl ym Mehefin, Gorffennaf ac Awst ac mae’n bwysig hefyd fel ffynhonnell neithdar a phaill i bryfed hofran. Mae Rubus yn niferus iawn fel llwyni drysi mewn mannau gwyllt, ond mae mwyar duon, mafon, tayberry, mwyar logan, mwyar boysen hefyd yn fathau o Rubus ac yn hoff iawn gan beillwyr a chan bobl fel ei gilydd.
  • Rhosod blodyn sengl. Bydd gwenyn deildorrol hefyd yn defnyddio dail i leinio’u nythod, ac maen nhw’n arbennig o hoff o ddail rhosod.