20 Rhag 2019

Bywyd gwyllt yn yr Ardd: adolygiad o 2019

Ardd Fotaneg · Botanic Garden

Dau o’n darganfyddiadau mwyaf cyffrous eleni fu’r wenynen gorniog (Eucera longicornis) a’r glöyn byw britheg y gors (Euphydryas aurinia), sydd yn dod o dan Adran 7 o Ddeddf yr Amgylchedd yng Nghymru. Mae hyn yn golygu eu bod yn cael eu gwarchod oherwydd eu ‘pwysigrwydd pennaf at ddiben cynnal a gwella bioamrywiaeth mewn perthynas â Chymru.’

Mae’r gwenyn gwryw’r rhywogaeth hon yn un o’n gwenyn hawsaf i’w hadnabod, gyda’u hantenau hir iawn. Mae’n un o’r gwenyn sydd wedi dirywio fwyaf ym Mhrydain, a chollodd rannau helaeth o’i thiriogaeth gynt oherwydd colli’r cynefin segur llawn codlys sydd arni eu hangen. Mae hoff blanhigion y wenynen hon yn cynnwys ytbysen y ddôl (Lathyrus pratensis), ytbysen fythol lydanddail (Lathyrus latifolius) a phys y ceirw (Lotus spp.). Er mai gwenyn unig yw’r rhain, maent fel rheol yn nythu mewn grwpiau ar bridd moel ar lethrau sy’n wynebu’r de. Maent i’w gweld fel rheol mewn ardaloedd arfordirol fel Traeth Rhosili a Thwyni Cynffig, a gwelwyd yr un ddiwethaf yn Sir Gaerfyrddin yn 2005, nes i mi weld un ym mis Gorffennaf yn yr Ardd. Mae hyn yn awgrymu efallai nid yw’r wenynen hon wedi ei chofnodi’n llawn mewn rhai ardaloedd.

Mae britheg y gors (Euphydryas aurinia) yn rhywogaeth sydd dan fygythiad ym Mhrydain ac mae ei gwarchod yn flaenoriaeth uchel. Wedi’i ddarganfod ledled Prydain yn flaenorol, erbyn hyn mae wedi’i chyfyngu i Orllewin Prydain ac Iwerddon, lle mae arni angen ardaloedd eang o dwmpathau gwlyb neu dir porfa calch. Mae’r larfau’n bwydo bron yn llwyr ar damaid y cythraul (Succisa pratensis) gan greu gweoedd sidan amlwg sy’n helpu eu diogelu rhag ysglyfaethwyr. Mae’r oedolion, fel y mwyafrif o bili-palod, yn bwydo ar neithdar ac maent yn arbennig o hoff o lesyn y coed (Ajuga reptans), blodyn llefrith (Cardamine pratensis), ac ysgall (Cirsium spp.). Mae ardal Cross Hands yn arbennig o gryf i britheg y gors ac mae yna ardaloedd eang o gynefin gwerthfawr. Mae yna lawer o damaid y cythraul yn ein Gardd Wyllt ac ym mis Mai eleni, cofnodwyd un britheg y gors yna gan y fyfyrwraig gwyddoniaeth Lydia Cocks, sef y tro cyntaf erioed yn yr Ardd.

Nid ond y britheg y gors oedd yr aelod o Lepidoptera cyffrous a ddarganfuwyd gan Lydia yn yr Ardd yn 2019. Mae rhywogaethau nodedig yn cynnwys y rhywogaeth blaenoriaeth Cynllun Gweithredu Bioamrywiaeth (CGB), y wensgod fawr (Mythimna turca), sy’n gysylltiedig gyda’r un cynefin â’r britheg y gors (porfeydd rhôs), a Mompha divisella, gwyfyn bychan gydag ond 27 cofnod yn Sir Gaerfyrddin hyd at 2016. Mae hwn yn rhywogaeth arall sy’n debyg i ddim cael ei chofnodi’n llawn oherwydd gwnaeth Lydia ddarganfod llawer dros y flwyddyn. Darganfuwyd Pachyrhabda steropodes hefyd yn yr Ardd yn 2019, gwyfyn o Awstralia gwnaeth ei chofnodi’n gyntaf gan Jon Baker yng Ngerddi Aberglasney yn 2005. Ers ei darganfyddiad mae ei wedi cael ei chofnodi yn ychydig o safleoedd o gwmpas Llandeilo ac yn awr yn ei wybod o chwech sgwâr 10 cilomedr yn Sir Gâr. Yr unigolyn y gwnaeth Lydia ddarganfod yw’r un mwyaf gorllewinol a ddarganfuwyd y mae Lydia na chofnodwr gwyfynod Sir Gaerfyrddin, Sam Bosanquet, yn ymwybodol ohono.  Efallai ei fod wedi cyrraedd ar redyn a fewnforiwyd i’r Ardd neu wedi gwasgaru o safleoedd hysbys eraill yn Sir Gaerfyrddin.

Bob pythefnos, mae ein gwirfoddolwyr cadwraeth yn gadael trap gwyfynod allan yn yr Ardd a nodi ei gynnwys. Mae’r tîm yma yn cael eu harwain gan Marigold Oakley ac eleni wnaethon nhw gofnodi troedwas gwridog (Miltochrista miniata) am y tro cyntaf. Mae’r rhywogaeth yma wedi cynyddu’n ddigonol ar draws y DU, gan weld cynnydd o 488% rhwng 1968 a 2007 (Cyflwr Gwyfynod Mwyaf Prydain 2013).

Nid ond anifeiliaid di-asgwrn-cefn sydd wedi’u gweld yn yr Ardd.

Cafodd pibydd gwyrdd (Tringa ochropus) ei weld ar Lyn Mawr, aderyn sydd wedi cael ei ddosbarthu’n ambr ar Y Rhestr Goch o Adar (2015) gan Gadwraeth Adar ac yn cael eu gwarchod yn y DU o dan y Ddeddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981. Er nid yw’n brin, mae o hyd yn bleser i weld y crëyr glas (Ardea cinerea) a wnaeth gwirfoddolwr cadwraeth Peter Williams sylwi.

Mae 2019 wedi bod yn flwyddyn wych am degeirianau yn yr Ardd. Gwelsom ni tegeirianau’r wenynen (Ophrys apifera) yn dychwelyd i’r Ardd ar ôl dwy flynedd o absenoldeb, gan ehangu i ddau safle ar wahân.  Hefyd, cawsom ni tegeirianau llydanwyrdd (Platanthera chlorantha) yn tyfu yng Nghae Derwen am y tro cyntaf, ynghyd â thegeirianau brych (Dactylorhiza fuschii), tegeirianau brych y rhos (Dactylorhiza maculata) a thegeirianau-y-gors deheuol (Dactylorhiza praetermissa) ar ôl gosod gwair gwyrdd o’n dolydd blodau gwyllt yn Awst 2016.

Gwnaeth Lydia ein haddysgu am bryfed bach sy’n anoddach i ddod ar draws. Gwnaeth hi dreulio llawer o amser yn cofnodi bywyd gwyllt ar safle ac ar Waun Las yn ystod ei blwyddyn yn yr Ardd. Mae’r rhywogaethau nodedig yn cynnwys Cytilus sericeus, chwilen bilsen gydag ychydig o gofnodion lleol, os o gwbl; Mecinus labilis, gwiddonyn sy’n barasit ar llyriad yr ais (Plantago lanceolata) gydag ychydig o gofnodion yn Sir Gâr; ac Apteropeda globosa, chwilen dail sy’n nodedig yn genedlaethol ac yn cael ei dosbarthu fel prin yn y DU gydag ond gofnodion lleol. Darganfuwyd llawer o chwilod crwban cedowydd, Cassida murraea, ar yr ardal fawr o gedowydd (Pulicaria dysenterica) y tu allan i’r Ganolfan Wyddoniaeth ac er nad yw’n brin, mae llawer o entomolegwyr heb weld y rhywogaeth yma.

Mae cofnodi bioamrywiaeth yn bwysig iawn i gadwraeth. Mae’n golygu gallwn ni cadw golwg ar rywogaethau dros amser a rhagddweud pa rhywogaethau sydd ar eu ffordd i ddifodiant. Os oes gennych chi ddiddordeb mewn cofnodi rhywogaethau, ymunwch â grwpiau Facebook fel “UK Hoverflies” neu “Bees, Wasps and Ants UK” lle mae yna filoedd o arbenigwyr ac amaturiaid yn eiddgar i helpu chi adnabod rhywogaethau. Neu, cysylltwch â Jane Down ar jane.down@gardenofwales.org.uk am sut i ymuno â’n gwirfoddolwyr cadwraeth sy’n cyfarfod bob Dydd Mawrth.