Cwrs Dylunwaith Plannu: Camau Nesaf

  • Sadwrn 16 Chwefror 2019
  • 10am - 2pm
Sut i archebu

Cwrs Dylunwaith Plannu: Camau Nesaf

Yn dilyn ein cwrs ‘Dylunwaith Plannu i Ddechreuwyr’, bydd y cwrs hwn yn edrych ar gynlluniau plannu, mesur a darlunio graddfa, yn ogystal ag edrych ar elfennau dylunio o fewn yr Ardd a thrafod sut y gellid gweithredu’r rhain mewn gardd eich hun.

Er mwyn cael y mwyaf allan o’r cwrs hwn, byddai’n ddefnyddiol, er nad yw’n hanfodol, i fynychu’r cwrs ar gyfer dechreuwyr.

Rhaid archebu ymlaen llaw.  Am fwy o wybodaeth, gan gynnwys sut i archebu, ffoniwch 01558 667150 neu e-bostiwch gtf@gardenofwales.org.uk.

Cwrs yn cael ei ddarparu fel rhan o brosiect Tyfu’r Dyfodol.

Mae’r prosiect hwn wedi derbyn cyllid trwy Raglen Datblygu Wledig 2014-2020 – Cymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru, a ariennir gan Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Ardaloedd Gwledig, a Llywodraeth Cymru.