Arddangosfa Cymdeithas Cerfwyr Pren Prydain

  • Sadwrn 13 Gorffennaf 2019
  • 10am - 5:30pm
Sut i archebu

Mae Cymdeithas Cerfwyr Pren Prydain yn dychwelyd i Ardd Fotaneg Genedlaethol Cymru yn dilyn galw mawr, a byddan nhw’n dangos ac arddangos eu cerfiadau trwy gydol yr penwythnos.

Bydd y Cerfwyr Coed yn y Tŷ Gwydr Mawr dydd Sadwrn 13- Dydd Sul 21 o Gorffennaf.

“Ry’n ni bob amser yn mwynhau dod i’r Ardd,” meddai Derek Edwards, arweinydd cangen De Cymru o Gymdeithas Cerfwyr Pren Prydain.

“Byddwn ni’n arddangos ein cerfio i’r cyhoedd. Bydd dim byd ar werth. Ry’n ni’n defnyddio’r ymweliadau hyn i gynyddu diddordeb y cyhoedd yn yr hyn ry’n ni’n ei wneud, a cheisio cael aelodau newydd.”

Mae aelodau’r Gymdeithas yn cwrdd yn rheolaidd mewn digwyddiadau tebyg, er mwyn cerfio, sgwrsio, a rhoi a derbyn cyngor. Mae 30 rhanbarth gan y Gymdeithas gan gynnwys De Cymru.