
Dyluniwyd yr Ardd i fod yn hygyrch i bob ymwelydd beth bynnag fo’i allu.
Os ydych yn anabl neu os oes gennych broblemau symudedd, mae sawl dewis ar gael i’ch helpu i archwilio’r Ardd Fotaneg:
Cadeiriau olwyn
Mae gennym nifer o gadeiriau olwyn wrth ein mynedfa i ymwelwyr, y Porthdy, sydd am ddim i’w llogi drwy gydol eich ymweliad.
Gwasanaeth Bygi Gwennol
Gall ein gwasanaeth bygi gwennol rheolaidd fynd â chi i’r rhan fwyaf o rannau’r Ardd Fotaneg, gan gynnwys y parcdir wedi’i adfer, a’ch dychwelyd i’r Porthdy.
Sgwteri Symudedd
Mae sgwteri symudedd ar gael i’w llogi o’r Porthdy. Y tâl llogi yw £15 y diwrnod, yn ogystal â blaendal o £15. Caiff y blaendal ei ad-dalu ar ddiwedd eich ymweliad os caiff y sgwter symudedd ei ddychwelyd mewn cyflwr boddhaol. Sylwch mai dim ond ar lwybrau tarmac y caniateir i’n sgwteri symudedd gael eu gyrru arnynt ac felly ni ellir eu defnyddio o amgylch y parcdir wedi’i adfer na Chanolfan Adar Ysglyfaethus Prydain.
Oherwydd niferoedd cyfyngedig, rydym yn eich cynghori i neilltuo sgwter symudedd ar gyfer eich ymweliad, i wneud hynny ffoniwch 01558 667149 os gwelwch yn dda.
Cyfleusterau ‘Changing Places’
Mae yna gyfleusterau ‘Changing Places‘ ger y Porthdy. Mae ystafelloedd ‘Changing Places’ wedi’u dylunio fel eu bod yn gwbl hygyrch ac yn darparu digon o le ac offer i bobl nad ydynt yn gallu defnyddio’r toiled yn annibynnol. Sylwch os gwelwch yn dda, mae angen allwedd RADAR i gael mynediad i’r ystafell ‘Changing Places’.
Cŵn
Ar wahân i gŵn tywys, dim ond ar ddydd Llun a dydd Gwener y caniateir cŵn i’r Ardd Fotaneg, yn ogystal â phenwythnos llawn cyntaf pob mis.
Beiciau
Er diogelwch ein holl ymwelwyr, nid ydym yn caniatáu beiciau na sglefrfyrddau i mewn i’r Ardd Fotaneg.