Llogi corfforaethol

Mae gan yr Ardd 8 lleoliad ar gyfer eu llogi’n gorfforaethol

Mae pob un â’i nodweddion arbennig, yn gwbl hygyrch, ac ar gael yn ystod y dydd a gyda’r nos. Gellir addasu’r seddau ym mhob lleoliad ar gyfer eich anghenion.

Manylion y Pecyn i Fynychwyr Diwrnod – pris: £18.95 (ynghyd â TAW)

Mae’r Pecyn i Fynychwyr Diwrnod yn caniatáu ffordd hwylus i chi gostio eich digwyddiad.   Mae pob Pecyn i Fynychwyr Diwrnod yn cynnwys y canlynol:

  • Hurio Stafell am y diwrnod
  • Dŵr mwynol
  • Egwyl lluniaeth: wrth gyrraedd, canol bore, canol prynhawn – gan gynnwys cacennau a bisgedi
  • Cinio Bwffe – Bwffe bys, sudd/te a choffi
  • Offer

Os byddwch yn dewis y pecyn uchod, bydd yn rhaid i’ch grŵp gynnwys o leiaf 10 person.

Darllenwch ymlaen er mwyn gweld pa leoliad sy’n addas i chi.

Noder os gwelwch yn dda: nid yw ein taliadau a restrwyd yn cynnwys TAW, a fydd yn cael ei godi ar y raddfa gyfredol.  Mae Wi-Fi yn rhad ac am ddim ar draws yr Ardd.