Llogi lleoliad
Mae’r Ardd yn lle delfrydol er mwyn cynnal achlysuron preifat, seminarau, diwrnodau o hyfforddi, a chynadleddau
Gallwn ni gynnig nid yn unig safle prydferth, ond mae gennym hefyd gyfleusterau rhagorol ar gyfer digwyddiadau bach a mawr, ac ry’n ni’n darparu gwasanaeth unigol er mwyn diwallu amrywiaeth eang iawn o anghenion. Lleolir Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru yn gyfleus ger Caerfyrddin, ar yr A48 rhwng Cross Hands a Chaerfyrddin, funudau o’r M4.
Cysylltwch â Cellan Williams os gwelwch yn dda, os oes angen mwy o fanylion arnoch, os oes ymholiadau arbennig ganddoch, neu os dymunwch wneud archeb darpariaethol.
Mae’r Ardd Fotaneg yn le hygyrch iawn, ac mae lifft mewn sawl adeilad. Mae cyfleusterau cynadledda ar gael yn ystod y dydd a gyda’r nos.
Gellir addasu’r seddau yn y stafelloedd i gwrdd â’ch anghenion arbennig.